Peter Benenson

Peter Benenson
Ganwyd31 Gorffennaf 1921 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 2005 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddSecretary-General of Amnesty International Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
MamFlora Solomon Edit this on Wikidata
Gwobr/auDyneiddiwr y Flwyddyn Edit this on Wikidata

Gweithredwr dros hawliau dynol o Loegr oedd Peter Benenson (31 Gorffennaf 192125 Chwefror 2005). Sefydlodd Amnest Rhyngwladol yn 1961 ar ôl darllen erthygl am garcharu dau fyfyriwr ym Mhortiwgal a oedd wedi cynnig llwncdestun i "Ryddid".

Ymgyrch blwyddyn oedd ganddo mewn golwg i ddechrau ond fe dyfodd yn fudiad gyda mwy na 1.8 miliwn o aelodau erbyn heddiw

Roedd yn ŵyr i Grigori Benenson, bancwr Rwsieg-Iddewig ac yn fab i Flora a John Solomon.

Ar ôl cael gwersi preifat gan W. H. Auden cafodd ei addysg yn Eton a Phrifysgol Rhydychen. Mor ifanc a 16 mlwydd oed bu'n ymgyrchu yn ei ysgol am gefnogaeth i helpu plant amddifad gweriniaethwyr Rhyfel Cartref Sbaen.

Peidiodd Benenson a bod yn arweinydd Amnest ar ôl i ymchwiliad annibynnol fethu a chadarnhau ei gred fod heddlu cudd Prydeinig yn dod yn aelodau o'r mudiad.