Pethe Brau

Pethe Brau
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurTennessee Williams
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddallan o brint
ISBN9780863838927
Dechrau/Sefydlu1944 Edit this on Wikidata
GenreMemory play Edit this on Wikidata
CymeriadauAmanda Wingfield, Tom Wingfield, Laura Wingfield, Jim O'Connor Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afChicago Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1944 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Addasiad o ddrama Tennessee Williams, The Glass Menagerie wedi'i haddasu gan Emyr Edwards yw Pethe Brau. Cyhoeddwydd yr addasiad ym 1963 cyn i Wasg Gomer ei ail-gyhoeddi ym 1992. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1] Mae'r ddrama Saesneg wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg sawl gwaith gan gynnwys Y Werin Wydr o waith Annes Gruffydd.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama'n portreadu tyndra mewn teulu wrth i ddelfrydau a breuddwydion gael eu chwalu.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

"Drama hunangofiannol yw Pethe Brau. Mae hyn yn golygu fod ystyriaeth o gefndir y dramodydd yn hollbwysig. Ganwyd Tennessee Williams yn 1911 yn Mississippi, UDA. Roedd ei dad yn ddiotwr yn absennol o fywyd y teulu, ac yn un am y menywod. O ganlyniad i hyn, cafodd Tennessee Williams ei fagu ar aelwyd ei fam-gu a'i dad-cu, ac mae cymeriad Amanda yn seiliedig ar ei fam. Roedd Tennessee Williams yn blentyn oedd yn dioddef salwch cyson, ac o ganlyniad, tyfodd yn agos iawn at ei chwaer, Rose. Roedd hi hefyd yn wanllyd ac yn dioddef o orbryder. Hi, felly, odd yr ysbrydoliaeth i greu cymeriad Laura yn y ddrama."[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Tom Wingfield
  • Amanda Wingfield - mam Tom
  • Laura Wingfield - chwaer Tom
  • Jim O'Connor - y gŵr galw


Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Golygfa o gynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Pethe Brau o 1972

Llwyfannwyd y cyfieithiad yma gan Gwmni Theatr Cymru ym 1972 gyda Nesta Harris yn "serenu"[3]. Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Clawr cyhoeddiad 1992 o Pethe Brau

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. (PDF) https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2021-22/wjec21-22_1-1/pdf/cym/pethe-brau.pdf. Missing or empty |title= (help)
  3. "Nov 17, 1972, page 15 - Port Talbot Guardian at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.