Phil Rudd | |
---|---|
Rudd yn canu'r drymiau gydag AC/DC yn Seattle yn ystod taith yr albwm Ballbreaker ym 1995. | |
Ganwyd | Phillip Hugh Norman Witschke Rudzevecuis 19 Mai 1954 Melbourne |
Label recordio | EMI |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | rock drummer |
Arddull | cerddoriaeth roc caled |
Gwefan | http://philrudd.com/ |
Drymiwr o Awstralia yw Phillip Hugh Norman Rudd (ganwyd 19 Mai 1954)[1] sy'n canu drymiau i'r band roc AC/DC yn y cyfnod 1975–83 ac ers 1994. Perfformiodd ar 13 o albymau stiwdio AC/DC: T.N.T. (1975), High Voltage (1976), Dirty Deeds Done Dirt Cheap (1976), Let There Be Rock (1977), Powerage (1978), Highway to Hell (1979), Back in Black (1980), For Those About to Rock We Salute You (1981), Flick of the Switch (1983), Ballbreaker (1995), Stiff Upper Lip (2000), a Black Ice (2008), ac ar yr albwm Rock or Bust a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Tachwedd 2014. Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Head Job, ym mis Awst 2014.
Yn 2014 cafodd Rudd ei arestio yn Seland Newydd ar gyhuddiad o geisio trefnu llofruddiaeth dau o bobl, o fygwth lladd ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant.[2][3] Cafodd y cyhuddiad o geisio trefnu llofruddiaeth ei dynnu'n ôl yn hwyrach.[4]