Philip Tanner | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1862 Llangynydd |
Bu farw | 19 Chwefror 1950 Penmaen |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Arddull | canu gwerin |
Roedd Philip Tanner (16 Chwefror 1862 – 19 Chwefror 1950) yn wehydd Cymreig a fu'n gyfrifol am sicrhau bod nifer o ganeuon a dawnsiau gwerin Bro Gŵyr wedi eu cadw.[1]
Ganwyd Tanner yn Llangynydd, Gŵyr yn fab ieuengaf i Isaac Tanner a Jennet (née Guy) ei wraig.
Roedd y teulu Tanner wedi bod yn arfer crefft y gwehydd gwlân yn ardal Abertawe am genedlaethau. Dysgodd Philip y grefft gan ei dad a bu'n cynorthwyo ym musnes ei dad hyd gyrraedd 24 mlwydd oed ym 1886 pan briododd gwraig weddw o'r enw Ruth Nicholas. Roedd Ruth yn 50. Roedd diweddar ŵr Ruth yn cadw tŷ tafarn efo ychydig o dir fferm ynghlwm iddi. Gobaith Tanner oedd y byddai ei briodas yn caniatáu iddo ef cadw'r tafarn a gweithio'r tir. Roedd y tirfeddiannwr, Mr Penreice, wedi ffieiddio bod gŵr ifanc wedi priodi gwraig weddw dwywaith ei oed ac yn credu ei fod wedi gwneud hynny dim ond i gael ei ddwylo ar y dafarn, gan hynny fe drodd y teulu allan o'r tir a gan nad oedd modd gwneud bywoliaeth o'r dafarn yn unig bu'n raid ei gau.[2] Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach bu Tanner yn cwyno am y ffordd cafodd ei drin i Gomisiwn Tir Cymru a sefydlwyd i edrych i mewn i'r ffordd roedd landlordiaid yn trin eu tenantiaid. Wedi colli'r dafarn aeth Tanner i weithio fel labrwr amaethyddol.[3]. Erbyn cyfrifiad 1911 roedd Tanner wedi llogi melin ac yn gweithio fel melinydd ŷd.[4] Roedd hefyd yn parhau i wneud rhywfaint o waith gweu gan fod pobl yn ei gofio fel un o'r olaf i wisgo brethyn cartref wedi ei wneud yn arddull traddodiadol Bro Gŵyr.[1]
Wedi dysgu nifer o ganeuon a dawnsfeydd traddodiadol Gŵyr Seisnig gan aelodau hŷn ei deulu a'u cymdogion, bu'n gwasanaethu fel ‘gwahoddwr’ ar gyfer priodasau. Byddai gwahoddwr yn mynd o ddrws i ddrws yn canu neu'n adrodd penillion i wahodd pobl i'r briodas, i ganu clodydd yr arlwy byddai ar gael i'r gwesteion ac yn eu hannog i fod yn hael wrth anrhegu'r cwpl ifanc. Daeth yn enwog yn ei fro fel un byddai'n diddanu ar lwyfannau a thafarnau lleol.
Ym 1932 bu'n canu mewn gwersyll haf i bobl di waith. Ymysg y myfyrwyr oedd yn rhedeg y gwersyll oedd y canwr gwerin a chasglwr alawon gwerin F A Bracey. Ym 1937 estynnodd Bracey gwahoddiad i Tanner i fynd i Lundain i recordio rhai o'i ganeuon i Gymdeithas Caneuon Gwerin Prydain. Ar yr un daith bu hefyd yn recordio rhai o'i ganeuon i'r BBC. Yn niweddarach yr un flwyddyn recordiodd rhai o'i ganeuon i gwmni Columbia. Recordiodd casgliad arall o ganeuon ym 1949 i Columbia. Mae ei recordiau wedi eu hail ddefnyddio ar nifer o gasgliadau caneuon gwerin. Bu Cymdeithas Hynafiaethau Bro Gŵyr hefyd yn gyfrifol am gadw lawer o'i wybodaeth ar glawr.
Bu farw yn y Penmaen Eventide Home ym Mhenmaen Gwŷr yn 88 mlwydd oed.[5]