Enw llawn | Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Piastunki (y Nyrsus) Szlachta (Uchelwyr) | |||
Sefydlwyd | 18 Mehefin 1945 | |||
Maes | Stadion Piast (sy'n dal: 10,037) | |||
Cadeirydd | Marek Kwiatek | |||
Rheolwr | Waldemar Fornalik | |||
Cynghrair | Ekstraklasa | |||
2022/23 | 5. (Ekstraklasa) | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Mae Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice ([ˈpʲast ɡlʲiˈvʲit͡sɛ], "Clwb Chwaraeon Piast Gliwice") neu Piast yn gyffredin ar lafar, yn glwb pêl-droed Pwyleg sydd chwarae yn ninas Gliwice yn nhalaith Silesia yn ne orllewin Gwlad Pwyl, dinas o rhyw 180,000 o drigolion oddeutu 25 km i'r gorllewin o Katowice mewn ardal ddiwydiannol. Enillont bencampwriaeth yr Ekstraklasa (Uwch Gynghrair Gwlad Pwyl) yn 2018-19 am y tro cyntaf yn eu hanes. Lliwiau'r clwb yw coch a glas ac mae'r arfbais yn arddangos eryr a thŵr.[1]
Sefydlwyd y clwb ar 18 Mehefin 1945 gan Bwyliaid a oedd wedi cael eu gorfodi i adael eu tir yn yr hyn sydd heddiw yng ngorllewin Wcráin ond a oedd, cyn yr Ail Ryfel Byd yn rhan o Wlad Pwyl. Y clwb yw'r un gyntaf erioed i esgyn o'r 7fed adran yn system byramid pêl-droed Gwlad Pwyl i'r Uwch Gynghrair ac yna ennill yr hawll i gystadlu yn Ewrop.[2]
Bu'r clwb yn chwarae am 32 tymor yn yr ail adran Bwylaidd, cyn esgyn i'r Ekstraklasa am y tro cyntaf yn 2008. Llwyddodd y clwb i gyrraedd Cwpan Gwlad Pwyl ddwywaith (yn 1978 a 1983) gan golli ar y ddau achlysur.
Daw enw clwb o'r llinach Piast, teulu brenhinol oedd yn rheoli Gwlad Pwyl o flynyddoedd cyntaf annibyniaeth rhwng 970 ac 1360.
Mae'r clwb wedi newid ei henw sawl gwaith ers ei sefydlu yn y mis gyntaf wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd:
Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Adref | Oddi Cartref | Agregad |
---|---|---|---|---|---|---|
2013-14 | Cynghrair Europa UEFA | Clasificatoria 2 | FK Qarabağ | 2–2 | 1–2 | 3–4 (t.e.) |
2016–17 | Cynghrair Europa UEFA | Clasificatoria 2 | IFK Göteborg | 0–3 | 0–0 | 0–3 |