Math o gyfrwng | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | western concert flute |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o ffliwt fechan tua 12 modfedd (30 cm) o hyd yw'r picolo. Mae'n aelod o adran chwythbrennau mewn cerddorfa fawr; mae hefyd i'w ganfod yn aml mewn bandiau gorymdeithio a bandiau chwyth. Mae'n hanner maint ffliwt safonol ac yn cael ei chwarae trwy ei fyseddu yn yr un ffordd â'r offeryn hwnnw, ond mae'n swnio wythfed yn uwch. Er bod yna berfformwyr sy’n arbenigo mewn chwarae’r picolo, bydd unrhyw chwaraewr ffliwt mewn cerddorfa broffesiynol yn barod i'w chwarae os gelwir arno i wneud hynny.
Mae'r enw'n tarddu o'r gair Eidaleg piccolo, sy'n golygu "bach" – talfyriad o piccolo flauto ("ffliwt fechan"). Er hynny, yr enw Eidalaidd modern arferol ar yr offeryn yw ottavino.
Er y gellir defnyddio'r picolo fel offeryn unawdol, ac mae sonatâu a choncertos wedi'u hysgrifennu ar ei gyfer, fe'i defnyddir yn bennaf fel aelod cyffredin o gerddorfa neu fand. Defnyddir ei sain dreiddgar yn aml i ychwanegu disgleirdeb i ddarnau uchel lle mae'r gerddorfa gyfan yn chwarae.