System ffitrwydd corfforol a ddatblygwyd gan Joseph Pilates yn hanner cyntaf yr 20g yw Pilates (/pɪˈlɑːtɪz/;[1] Almaeneg: [piˈlaːtəs]). Galwodd Joseph Pilates ei ddull yn "Contrology". Mae'n cael ei arfer yn fyd-eang, yn arbennig mewn gwledydd Gorllewinol.[2]
Ychydig o dystiolaeth sy'n sail i'r dybiaeth bod Pilates yn lleddfu poen yng ngwaelod y cefn, neu'n gwella cydbwysedd yr henoed. Nid yw Pilates wedi'i brofi fel triniaeth effeithiol ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod sesiynau Pilates rheolaidd yn gallu cynorthwyo gyda chyflyru cyhyrau oedolion iach, o gymharu â pheidio gwneud unrhyw ymarfer corff o gwbl.
Yn ei lyfr Return to Life through Contrology,[3] mae Joseph Pilates yn cyflwyno ei ddull fel y gelfyddyd o symudiadau wedi'u rheoli, sydd i fod i deimlo fel ymarfer corff (yn hytrach na therapi) pan mae'n cael ei arfer fel y dylai. O wneud yn gyson, mae Pilates yn gwella hyblygrwydd, yn rhoi cryfder ac yn datblygu rheolaeth a gwytnwch trwy'r corff.[4] Mae'n rhoi pwyslais ar aliniad, anadlu, datblygu craidd cryf, a gwella cydlyniad a chydbwysedd. Mae'r craidd, sef cyhyrau'r abdomen, gwaelod y cefn, a'r cluniau, yn aml yn cael ei alw yn y "pwerdy" ac yn cael ei ystyried yn allweddol i sefydlogrwydd yr unigolyn.[5] Mae system Pilates yn caniatau i wahanol ymarferion gael eu haddasu i lefel yr unigolyn, a hefyd amcanion a chyfyngiadau'r hyfforddwr a'r ymarferydd. Gellir cynyddu dwysedd dros amser wrth i'r corff ddod i arfer â'r ymarferion.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)