Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
---|---|
Arweinydd | Carla Denyer a Adrian Ramsay |
Dirprwy arweinydd | Zack Polanski |
Sefydlwyd | 1990 |
Rhagflaenwyd gan | Y Blaid Werdd |
Pencadlys | Development House, 56-64 Leonard Street, London, EC2A 4LT |
Asgell yr ifanc | Gwyrdd Ifanc Cymru a Lloegr |
Aelodaeth (2022) | 53,126 [1] |
Rhestr o idiolegau | Cynaladwyedd, Cynhesu byd eang, Egni adnewyddadwy |
Sbectrwm gwleidyddol | Gwleidyddiaeth asgell chwith |
Partner rhyngwladol | Y Blaid Werdd Rhyngwladol |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid Werdd Ewrop |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Cynghrair Rhydd Ewrop y Blaid Werdd |
Lliw | Green |
Tŷ'r Cyffredin (Seddi Cymru a Lloegr) | 4 / 575 |
Tŷ'r Arglwyddi | 2 / 786 |
Cynulliad Llundain | 3 / 25 |
Senedd Cymru | 0 / 60 |
Llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr[2] | 813 / 17,546 |
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | 0 / 37 |
Gwefan | |
www.greenparty.org.uk |
Plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru a Lloegr (Saesneg: Green Party of England and Wales). Mae'n aelod o Blaid Werdd Ewrop a'r mudiad Gwyrdd rhyngwladol a hi yw'r blaid werdd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Sefydlwyd y blaid yn 1990 pan ymrannodd 'Y Blaid Werdd' yn dair rhan: Iwerddon, yr Alban a hon (Cymru a Lloegr). Yn wahanol i fwyafrif y pleidiau eraill, mae wedi'i seilio ar thema, sef dyfodol y blaned a'r pwysigrwydd o leihau carbon deuocsid, cynaladwyedd, cynhesu byd eang, cynyddu egni adnewyddadwy a lleihau ynni niwclear a'n dibynnedd ar danwydd ffosil. Mae hefyd yn gefnogol i gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae'n gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.
Yn 2014 roedd gan y blaid un Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, sef Caroline Lucas, sy'n cynrychioli etholaeth Brighton Pavilion.[3] Roedd Lucas yn arweinydd y blaid rhwng 2008 a 2012, pan drosglwyddwyd yr awenau i Natalie Bennett.[4][5] Mae gan y Blaid Werdd hefyd un arglwydd am oes.
Cangen lled-annibynnol o Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru. Mae gan y Blaid Werdd Cymru a Lloegr 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru.
Ystyrir Cynog Dafis yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Werdd oherwydd cytundeb rhwng y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y Gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Cynog Etholaeth Ceredigion a Gogledd Sir Benfro dros Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn Llundain wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn Lewisham.[angen ffynhonnell] Mae hyn yn adlewyrchiad perthynas y ddwy blaid yn Senedd Ewrop fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartïon rhanbarthol a Gwyrddion. Ar hyn o bryd Jill Evans, Plaid Cymru, yw arweinydd y Gwyrddion - Cynghrair Rydd Ewrop yn Senedd Ewrop, ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.
As at 31 December 2022 the party had 53,126 members