![]() | |
Math | tŷ ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
Lleoliad | Llanddaniel Fab ![]() |
Sir | Llanddaniel Fab ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 14.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2027°N 4.21605°W ![]() |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Henry William Paget, Teulu Paget, Plas Newydd, teulu Griffith y Penrhyn, Nicholas Bagenal, Lewis Bayly, Edward Bayly, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Plasty Ardalydd Môn ar lan Afon Menai, Ynys Môn yw Plas Newydd sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond a fu am flynyddoedd yn gartref i Ardalydd Môn. Saif y plasty hwn ddwy filltir i'r de-orllewin o Lanfairpwll ar yr A55. Mae'r tŷ'n dyddio yn ôl i'r 14g ac ar agor i'r cyhoedd.
Ym mharc y plas ceir beddrod siambr Neolithig.
Defnyddiwyd safle'r tŷ gyntaf yn y 13g, a gelwid ef yn "Llwyn-y-Moel". Erbyn 1470 roedd yn perthyn i deulu Griffith, a oedd hefyd yn berchen ar Gastell Penrhyn ger Bangor. Roedd Gwilym ap Griffith wedi etifeddu tiroedd drwy ei briodas â Morfydd, merch Goronwy ap Tudur o Benmynydd. Adeiladodd Robert Griffith y rhannau cynharaf o'r tŷ presennol yn gynnar yn yr 16g ar ffurf 'tŷ neuadd'.