Teclyn bach gwastad sy'n cael ei ddefnyddio i blycio neu neu strymian offeryn llinynnol yw plectrwm.
Wrth chwarae offerynnau sy'n cael eu dal â llaw fel gitarau a mandolinau, mae'r plectrwm yn aml yn cael ei alw'n pic, ac yn declyn sy'n cael ei ddal yn llaw y chwaraewr. Mae fel arfer yn ddarn tenau o blastig, metal neu ddeunydd arall mewn siâp diferyn neu driongl. Mae chwaraewyr banjo a rhai chwaraewyr gitâr yn defnyddio pic bawd a rhai hefyd yn gwisgo pics fel modrwyon ar flaenau eu bysedd.
Mewn harpsicord, mae'r plectrymau (wedi'u gwneud o gwilsynnau neu ledr yn draddodiadol) wedi'i gysylltu i'r mecanwaith jac.