Pluen-fwsogl cypreswydd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Bryophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Hypnales |
Teulu: | Hypnaceae |
Genws: | Hypnum |
Rhywogaeth: | H. cupressiforme |
Enw deuenwol | |
Hypnum cupressiforme Hedw. |
Mwsogl bach sy'n gyffredin ledled y byd yw'r pluen-fwsogl cypreswydd (Hypnum cupressiforme). Mae'n tyfu ar risgl, creigiau a muriau. Fe'i defnyddiwyd i lenwi matresi a chlustogau yn y gorffennol.
Mae ganddo goesau canghennog sy'n ymlusgo dros yr arwyneb, yn ffurfio matiau trwchus. Mae ei ddail yn gorgyffwrdd ei gilydd ac maent yn debyg i ddail cypreswydden.