Polisi rheoli poblogaeth yng Ngweriniaeth Tsieina yw'r polisi un plentyn, neu'r polisi cynllunio teuluol fel y'i gelwid yn swyddogol,[1]. Ystyria nifer o ddemograffwyr y term polisi "un plentyn" yn gamenw, am fod gan y polisi nifer o eithriadau: gall teuluoedd gwledig gael ail blentyn os yw'r plentyn cyntaf yn ferch neu'n anabl, ac nid yw lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys o dan y ddeddfwriaeth. Caniateir i deuluoedd lle nad oes gan y fam na'r tad siblingiaid gael dau blentyn.[2] Eithrir trigolion yr Ardaloedd Gweinyddol Arbennig yn Hong Kong a Macau, yn ogystal ag estronwyr sy'n byw yn Tsieina. Yn 2007, amcangyfrifir fod 35.9% o boblogaeth Tsieina o dan reolaeth y polisi hwn.[3] Yn Tachwedd 2013, cyhoeddodd llywodraeth Tsiena y byddent yn llacio'r ddeddfwriaeth ymhellach drwy ganiatáu i deuluoedd gael dau blentyn os yw un o'r rhieni'n unig blentyn.[2]
Cyfwynwyd y polisi yn 1979 er mwyn delio â phroblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn Tsieina..[4] Amcangyfrifa demograffwyr fod y polisi wedi atal 200 miliwn o enedigaethau rhwng 1979 a 2009.[5] Ystyrir y polisi yn ddadleuol yn Tsieina a thu hwnt oherwydd y dull y caiff y polisi ei weithredu ac oherwydd pryderon ynglŷn â chanlyniadau cymdeithasol negyddol.[6] Mae'r polisi wedi cael ei gysylltu â chynnydd yn y nifer o erthyliadau gorfodol, babanladdiad benywaidd, a than-adrodd[7] genedigaethau benywaidd, ac awgryma rhai taw dyma yw'r rheswm tu ôl anghydbwysedd rhyw Tsieina. Fodd bynnag, dangosodd arolwg a wnaed gan Ganolfan Ymchwil Pew yn 2008 fod 76% o boblogaeth Tsieina yn cefnogi'r polisi.[8]
Gweinyddir y polisi ar lefel rhanbarthol trwy roi dirwyon yn seilieidg ar incwm y teulu a ffactorau eraill. Ceir "Comisiynau Poblogaeth a Chynllunio Teuluol" (计划生育委员会) ar bob lefel o lywodraeth er mwyn hybu ymwybyddiaeth, cofrestru a chwblhau gwaith ymchwilio.[9]