Gelwir polygon syml nad yw'n amgwm yn geugrwm. Mae gan y polygon ceugrwm o leiaf un ongl fewnol sydd rhwng 180 a 360 gradd.[1]
Nodweddion:
Nid oes unrhyw un o'r tri datganiad hyn yn gywir o ran y polygon amgrwm, fodd bynnag.
Fel gydag unrhyw bolygon syml, mae swm yr ongl fewnol yn: π (n − 2) radian, ac felly 180°×(n − 2), lle mae n yn cyfateb i nifer yr ochrau.
Mae'n bosibl bob amser rannu polygon ceugrwm yn set o bolygonau amgrwm. Disgrifia Chazelle a Dobkin (1985) i algorithm amser-polynomial ar gyfer dod o hyd i ddadelfennu i mewn i'r nifer lleiaf o bolygonau cefngrwm â phosibl.[2]
Ni all triongl byth fod yn geugrwm, ond mae polygonau ceugrwm yn bodoli gyda n o ochrau ar gyfer unrhyw n> 3. Enghraifft o pedrochr ceugrwm yw'r dart.