Math | pont grog, pont gludo |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1893 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Area singularizada de Getxo, Q125894091 |
Lleoliad | Portugalete |
Sir | Portugalete |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Cyfesurynnau | 43.3231°N 3.0169°W |
Perchnogaeth | Port Authority of Bilbao |
Statws treftadaeth | Bien de Interés Cultural |
Manylion | |
Deunydd | haearn |
Pont gludo ar draws aber Afon Nervion sy'n cysylltu trefi Portugalete a Las Arenas (rhan o Getxo) yng nghymuned ymreolaethol Euskadi yw Pont Bizkaia (Basgeg: Bizkaia zubia, Sbaeneg: Puente de Vizcaya).
Adeiladwyd y bont yn 1893, yr enghraifft gyntaf yn y byd o bont gludo. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged crog mawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Cynlluniwyd hi gan Alberto Palacio, oedd yn ddisgybl i Gustave Eiffel. Mae wedi ei defnyddio yn ddi-dor heblaw am gyfnod o bedair blynedd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, pan ffrwydrwyd y rhan uchaf.
Mae'r bont yn 164 medr o hyd, ac mae'r gondola yn medru cario chwech car a rhai dwsinau o deithwyr. Gall y gondola groesi'r afon mewn munud a hanner, ac mae'n rhedeg bob wyth munud.
Yn 2006 enwyd Pont Bizkaia yn Safle Treftadaeth y Byd.