Math | pont ffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sir y Fflint |
Agoriad swyddogol | 6 Mawrth 1998 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cei Connah |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2287°N 3.0659°W |
Pont dros Afon Dyfrdwy yw Pont Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire Bridge) a agorwyd yn 1997. Mae'n dwyn ffordd osgoi'r A548 rhwng Cei Connah a Shotton yn nwyrain Sir y Fflint. Costiodd £55 miliwn.
Pont cêblau crog asymetrig (asymmetric cable stayed bridge) ydyw, a chredir mai dyma'r un fwyaf yng ngwledydd Prydain. Bwriad y noddwyr, Cyngor Sir y Fflint, oedd adfywio Parc Busnes Glannau Dyfrdwy a lleihau'r tagfeydd traffig o gwmpas Shotton a Chei Connah.[1]