![]() | |
Math | pont garreg fwaog, pont ffordd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Amwythig ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7102°N 2.75809°W ![]() |
Cod OS | SJ4888012771 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Pont garreg fwaog sy'n croesi Afon Hafren yn nhref Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Pont y Cymry. Mae'n cysylltu maestref Frankwell â chanol y dref. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.[1]
Cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont o 1793 hyd 1795 gan John Tilley a John Carline (yr oedd ei dad o'r un enw yn saer maen ar Bont y Saeson). Nhw hefyd a adeiladodd pont Montford Bridge i Thomas Telford. Disodlodd Pont y Cymry bont ganoloesol o'r enw Pont Sant George.
Mae pedwar o'r bwâu yn rhychwantu 43 troedfedd 4 modfedd, ac mae'r pumed bwa a'r bwa canolog yn rhychwantu 46 troedfedd 2 fodfedd. Mae'r bont yn 30 troedfedd o led, ac wedi'i hadeiladu o dywodfaen Grinshill. Mae'n 266 troedfedd o hyd. Fe'i cwblhawyd yn 1795 ar gost o £8,000.
Ar ei phen deheuol, ar y gyffordd â Victoria Avenue, mae'r geiriau "Commit No Nuisance" wedi ei naddu i garreg un o'r parapetau. Mae hyn yn waharddiad hynafol rhag pasio dŵr yn gyhoeddus.