Math | tref |
---|---|
Gefeilldref/i | Cobh |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pontarddulais |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.71°N 4.04°W |
Cod OS | SN589037 |
Cod post | SA4 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Tref a chymuned yn Sir Abertawe yn ne Cymru yw Pontarddulais (neu Pontardulais). Fe'i lleolir 16 cilomedr (10 milltir) i ogledd-orllewin canol dinas Abertawe.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
Pontraddulais yw cartref Côr Meibion Pontarddulais, a sefydlwyd yn 1960 ac sydd wedi ennill sawl cystadleuaeth gerddorol ac sydd wedi perfformio mewn sawl gwlad.
Yma ar 6 Gorffennaf 1843 yr ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, fel rhan o Helyntion Beca. Yr arweinydd oedd crydd a bardd lleol o'r enw Daniel Lewis (enw barddol: Petrys Bach). Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.[3]
Yn 2018 agorwyd gwaith atal llifogydd Pontarddulais gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth