Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,134 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5365°N 3.1408°W |
Cod SYG | W04000868 |
AS/au y DU | Anna McMorrin (Llafur) |
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Pontprennau. Roedd sawl fferm yn gorchuddio'r ardal yn y gorffennol, ond neilltuwyd y tir yn yr 1970au ar gyfer datblygiad tai, a dyluniwyd cyffordd 30 yr M4 yn arbennig ar gyfer gwasanaethu'r datblygiad. Mae wedi ymestyn yn sylweddol ers dechrau'r 1990au, gyda ystadau tai preifat a swyddfeydd cwmnïau yn bennaf.
Roedd 8,037 o bobl yn byw ym Mhontprennauyn ystod cyfrifiad 2001. Ond mae hyn wedi cynyddu ers hyn, gyda thai newydd yn cael eu codi yng nghorllewi Pontprennau a thai pellach ar ddarnau bychain o dir yma ac acw. Disgwylir i'r ardal ymestyn eto dros y blynyddoedd i ddod, mae eisoes cais cynlluno ar gyfer 4,000 o dai ar dir fferm rhwng Pontprennau a Llysfaen.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]