Porfirio Díaz | |
---|---|
Ganwyd | José de la Cruz Porfirio Díaz Mori 15 Medi 1830 Oaxaca |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1915 Paris |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Mecsico, gweinidog, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
Mudiad | Porfiriato |
Priod | Delfina Ortega Díaz, Carmen Romero Rubio |
Plant | Amada Díaz, Porfirio Díaz Ortega, Luz Aurora Victoria Díaz Ortega |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Leopold, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Order of the Lion and the Sun, Grand Cross of the Order of the Tower and Sword, Royal Order of the Sword, Urdd dros ryddid, Urdd Siarl III, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Lion and the Sun First class, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky |
llofnod | |
Gwleidydd a milwr [o Fecsico oedd Porfirio Díaz (15 Medi 1830 – 2 Gorffennaf 1915) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1877 i 1880 ac o 1884 i 1911.
Ganwyd yn Oaxaca de Juárez yn nhalaith Oaxaca yn ne Mecsico. Roedd yn mestizo ac yn hanu o dras frodorol. Dechreuodd hyfforddi i fod yn offeiriad yn 15 oed. Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd yn Rhyfel Mecsico a'r Unol Daleithiau (1846–48), yn Rhyfel La Reforma (1857–60), ac yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn 1861–67.[1]
Yn 1876 arweiniodd Díaz wrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada a chafodd ei ethol yn arlywydd y wlad ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog Manuel González yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir el porfiriato. Wedi iddo ennill etholiad arlywyddol 1910 drwy dwyll, dechreuodd Chwyldro Mecsico yn ei erbyn. Ymddiswyddodd Díaz o'r arlywyddiaeth ar 25 Mai 1911 ac aeth i Ewrop yn alltud. Bu farw ym Mharis yn 84 oed.[1]