Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tyddewi a Chlos y Gadeirlan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.88°N 5.31°W |
Bae gyferbyn ag Ynys Dewi, ar arfordir gorllewinol eithaf Sir Benfro yw Porth Stinan (Saesneg: St Justinian's) sydd heddiw'n nodedig am ei orsaf badau achub ac am hen eglwys Sant Stinan. Fe'i lleolir o fewn cymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, tua 2 km i'r gorllewin o ddinas Tyddewi ei hun.
Uwch yr hafan a'r môr saif hen Gapel Stinan, a godwyd yn wreiddiol gan yr Esgob Edward Vaughan tua 1515 ar hen safle cynharach a godwyd, mae'n debyg, gan Sant Stinan ei hun c. 6g. Dywedir i glychau'r eglwys gael eu dwyn, a'u cludo ar long a suddodd maes o law; dywedir hefyd y gellir clywed y clychau pan fo'r môr yn stormus.[1] Mae'r adeilad o bwysigrwydd mawr ac wedi'i gofrestru'n Gradd I.[2][3]
Ym Mhorth Stinan, hefyd, mae Gorsaf Bad achub Tyddewi, a sefydlwyd yn 1868, ond ni chodwyd yr adeilad tan 1912. Ceir 3 glanfa. Mae'r môr rhwng Porth Stinan ac Ynys Dewi yn hynod beryglus, a cheir ynysoedd o greigiau'n agos at y wyneb. Hyd at y 2000au credir yr achubwyd dros 200 o bobl gan y badau achub yma. Mae'r hen orsaf, o'r 1870au wedi'i gofrestru'n Radd II[4][5][6][7] Yma ym mae Porth Stinan, hefyd, mae glanfa'r cychod sy'n cludo ymwelwyr i Ynys Dewi drwy fisoedd yr haf - hyd at 40 y dydd.
Ceir yma hefyd Dŵr Gwylio[8][9] a Ffynnon Stinan[10][11] ill dau yn Radd II. Gwarchodfa natur Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yw Ynys Dewi a dim ond 40 o bobl y dydd gaif droedio'r ynys. Gerllaw, mae Lwybr Arfordirol Sir Benfro yn troelli ar y clogwyni garw, ac mae lle i barcio ceir neu feics gerllaw.[12]
Credir mai person o Lydaw oedd Stinan, ac unig ffynhonnell ei hanes yw buchedd gan John o Teignmouth a drawsysgrifiodd o o lawysgrif gynharach, nad yw bellach ar gael.[13]