Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Dylan Thomas ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1940 ![]() |
Lleoliad y gwaith | Abertawe ![]() |
Casgliad o straeon byrion Saesneg gan Dylan Thomas yw Portrait of the Artist as a Young Dog ("Portread o'r Arlunydd fel Ci Ifanc"). Cyhoeddwyd gyntaf gan J. M. Dent ar 4 Ebrill 1940.
Mae'r straeon, a ysgrifennwyd dros nifer o flynyddoedd, yn lled-hunangofiannol ac yn ddigrif eu naws yn bennaf. Maent i gyd wedi'u gosod yn Abertawe, tref enedigol yr awdur, ac yn rhoi cipolwg ar ei fywyd, o'i blentyndod cynnar hyd at ei arddegau fel gohebydd ifanc i'r South Wales Daily Post.
Honnodd Thomas, mewn llythyr at Vernon Watkins, ei fod wedi "cadw'r teitl cellweirus am – fel y mae'r cyhoeddwyr yn cynghori – rhesymau gwneud arian".
Defnyddiwyd y teitl gan Clwyd Theatr Cymru ar gyfer taith theatrig trwy ysgrifau rhyddiaith Dylan Thomas ym mis Ebrill 2014.[1]