Prifysgol Cymru, Casnewydd | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1975 | |||||||||||
Math | Cyhoeddus | |||||||||||
Canghellor | Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru | |||||||||||
Is-ganghellor | Peter Noyes | |||||||||||
Myfyrwyr | 9,630[1] | |||||||||||
Israddedigion | 7,525[1] | |||||||||||
Ôlraddedigion | 1,850[1] | |||||||||||
Myfyrwyr eraill | 250 addysg bellach[1] | |||||||||||
Lleoliad | Casnewydd, Cymru | |||||||||||
Campws | Campws Allt-yr-yn, Casnewydd Campws Caerleon | |||||||||||
Cyn-enwau | Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd / Univertisy of Wales College, Newport (UWCN) | |||||||||||
Lliwiau | Piws a glas Sgarff: | |||||||||||
Tadogaethau | Prifysgol Cymru Alliance of Non-Aligned Universities Association of Commonwealth Universities Campaign for Mainstream Universities | |||||||||||
Gwefan | http://www.newport.ac.uk |
Prifysgol yng Nghasnewydd, Cymru oedd Prifysgol Cymru, Casnewydd (Saesneg: University of Wales, Newport). Fe unodd y Brifysgol gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2013 i greu Prifysgol De Cymru.
Bu'r brifysgol yn rhan o fyd addysg uwch ers dros 80 mlynydd, ac mae ei wreiddiau yn mynd ymhellach yn ôl na hynny; i’r Athrofa Mecaneg cyntaf a agorwyd yn y dref ym 1841. Ffurfiwyd y sefydliad fel Coleg Addysg Uwch Gwent (Gwent College of Higher Education) gan uniad Coleg Addysg Caerleon (Caerleon College of Education; Coleg Hyfforddiant Sir Fynwy / Monmouthshire Training College gynt), Coleg Celf a Dylunio Casnewydd (Newport College of Art and Design) a Coleg Technoleg Gwent (Gwent College of Technology) ym 1975.[2] Daeth y coleg yn gysylltiedig â athrofa Prifysgol Cymru ym 1992, gan chael ei derbyn fel coleg prifysgol ym 1996. Mabwysiadodd yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd (Univertisy of Wales College, Newport/UWCN) yn fuan wedi hyn, cyn newid i'r enw Prifysgol Cymru, Casnewydd yn 2002, wedi iddi ennill statws lawn prifysgol.