Math | prifysgol gyhoeddus, academic publisher |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alecsander I, brenin Iwgoslafia, Edvard Kardelj |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ljubljana |
Gwlad | Slofenia |
Cyfesurynnau | 46.0489°N 14.5039°E |
Prifysgol hynaf Slofenia yw Prifysgol Ljubljana (Slofeneg Univerza v Ljubljani). Gyda 56,000 o fyfyrwyr cofrestredig, hon yw prifysgol fwya'r wlad, ac un o brifysgolion mwyaf Ewrop hefyd. Fe'i sefydlwyd gyntaf yng nghyfnod byr rheolaeth Ffrengig Napoleon yn 1810, ond fe'i diddymwyd yn fuan ar ôl i'r Awstriaid ddychwelyd i rym. Ailsefydlwyd y brifysgol yn 1919 gyda phum cyfadran (y gyfraith, athroniaeth, technoleg, diwinyddiaeth a meddygaeth. Dyluniwyd prif adeilad y brifysgol, sy'n sefyll yng nghanol Ljubljana ar Kongresni trg, gan Jan Vladimir Hrásky yn 1902, er iddo gael ei ddiwygio gan y pensaer Tsieceg Josip Hudetz yn ddiweddarach. Tan 1978, pryd sefydlwyd prifysgol newydd yn Maribor, hon oedd unig brifysgol Slofenia.