Arwyddair | Vita, Dulcedo, Spes |
---|---|
Math | prifysgol breifat, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, Catholic university, scientific publisher, cyhoeddwr mynediad agored |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | South Bend |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 41.7°N 86.2389°W |
Cod post | 46556 |
Sefydlwydwyd gan | Edward Sorin |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Catholigiaeth |
Prifysgol Gatholig breifat yn Unol Daleithiau America yw Prifysgol Notre Dame du Lac (Saesneg: University of Notre Dame du Lac), yn fyr Prifysgol Notre Dame neu Notre Dame (ynganer /ˌnoʊtərˈdeɪm/), a leolir yn Notre Dame, ger dinas South Bend yn nhalaith Indiana.
Sefydlwyd Prifysgol Notre Dame ym 1842 gan yr offeiriad Ffrengig Édouard Sorin, arweinydd Cynulleidfa'r Groes Sanctaidd. Gwasanaethodd Sorin yn llywydd cyntaf y brifysgol o 1842 i 1865. O'r cychwyn cynhwysai goleg i ddynion, ysgol gynradd, ysgol baratoi ar gyfer y coleg, ysgol alwedigaethol, a thŷ nofyddion. Dwy mlynedd wedi sefydlu'r brifysgol, agorodd chwaer-sefydliad i ferched, Academi'r Santes Fair (bellach Coleg y Santes Fair), dan reolaeth Chwiorydd y Groes Sacntaidd. Yn yr un flwyddyn, 1844, derbyniodd Notre Dame ei siarter. Yn y 1860au a'r 1870au ychwanegwyd adrannau'r gwyddorau, y gyfraith, a pheirianegg, gwasg academaidd, a llyfrgell.[1]
Yn y 1920au daeth yr ysgol baratoi i ben, ac aildrefnwyd y brifysgol yn golegau. Yn y cyfnod hwn daeth tîm pêl-droed Americanaidd Notre Dame i fri yn y cystadlaethau rhyng-golegol, yn enwedig dan arweiniad yr hyfforddwr enwog Knute Rockne. Cynnyddodd niferoedd y staff a'r myfyrwyr dan lywyddiaeth Theodore M. Hesburgh, o 1952 i 1987, ac ehangwyd ar gyfleusterau chwaraeon a rhaglenni academaidd y brifysgol. Ym 1967, trosglwyddodd Cynulleidfa'r Groes Sanctaidd lywodraeth Notre Dame i fwrdd o ymddiriedolwyr lleyg. Trodd yn brifysgol gymysg ym 1972, gan dderbyn myfyrwyr benywaidd am y tro cyntaf.[1]
Cynigir graddau baglor, graddau meistr, a doethuriaethau mewn amryw o ddisgyblaethau academaidd, yn ogystal â rhai cymwysterau proffesiynol. Heddiw mae Notre Dame yn cynnwys coleg y celfyddydau a llenyddiaeth, coleg y gwyddorau, coleg peirianneg, Coleg Busnes Mendoza, ysgol y gyfraith, ysgol pensaernïaeth, ac adran ôl-raddedig. Trwy raglen dramor y brifysgol, rhoddir cyfleoedd i fyfyrwyr Notre Dame astudio yn Awstralia, Affrica, y Dwyrain Canol, Ewrop, Asia, ac America Ladin. Yn 2022 cyfrifwyd bron 13,000 o fyfyrwyr, rhyw naw mil yn israddedigion a thua pedair mil yn ôl-raddedigion. Mae Notre Dame hefyd yn brifysgol ymchwil o nod, ac yn gartref i'r Ganolfan Astudiaethau Crefydd a Chymdeithas (CSRS), y Sefydliad dros Fywyd Eglwysig, Canolfan Jacques Maritain (sy'n ymwneud â gwaith Maritain a Tomistiaid eraill), a Chanolfan Gwyddoniaeth, Technoleg a Gwerthoedd John J. Reilly.