Mewn opera neu commedia dell'arte, prima donna ([priːma ˈdɔnna]; lluosog: prime donne ; Eidaleg ar gyfer prif fenyw) yw'r brif gantores fenywaidd yn y cwmni, y person y byddai'r prif rolau yn cael ei roi iddi. Fel arfer, ond nid o hyd, roedd y prima donna yn soprano. Y term cyfatebol ar gyfer yr arweinydd gwrywaidd (tenor bron bob amser) yw primo uomo. [1]
Yn yr Eidal yn y 19g, gelwid y fenyw flaenllaw mewn opera neu gwmni Commedia dell'arte yn prima donna. Fel arfer, byddai'r fenyw hon yn brif soprano yn y cwmni, yn perfformio rolau blaenllaw ac yn gyffredinol yn canu mwy o gerddoriaeth na merched eraill yn y cwmni.[1] Mae prime donne opera enwog yn aml wedi achosi i selogion opera rannu i "glybiau" gelyniaethus a oedd yn cefnogi un canwr dros un arall. Roedd y gystadleuaeth rhwng cefnogwyr Maria Callas a Renata Tebaldi, er enghraifft, yn un o'r rhai mwyaf enwog, er gwaethaf cyfeillgarwch y ddwy gantores.[2]
Mae'r dynodiad prima donna assoluta (y fenyw gyntaf absoliwt) yn cael ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd ar gyfer cantores o ragoriaeth arbennig.[3] Fe'i defnyddiwyd hefyd i ddisgrifio crewyr rolau coloratura arwrol yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.[4]
Term tebyg i prima donna yw diva
Ar brydiau, roedd gan y prime donne hyn personoliaethau crand iawn oddi ar y llwyfan. Roeddent yn enwog am roi pwysau ar eu cyd-aelodau, cerddorion, dylunwyr setiau a dillad, cynhyrchwyr a staff eraill. Ond cawsant eu goddef yn barchus oherwydd eu talent arbennig a'u gallu i ddenu pobl i'r swyddfa docynnau. O ymddygiad llethol y prif gantoresau opera, mae'r term prima donna bellach yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin am ferched (a dynion) mewn meysydd eraill. Mae'n dynodi rhywun sy'n ymddwyn mewn ffordd anodd, yn aml yn anwadal, gan ddatgelu barn chwyddedig am ei hun, ei thalent, a'i phwysigrwydd.[5] Oherwydd y cysylltiad hwn, mae ystyr gyfoes y gair yn cael ei ddefnyddio mewn modd negyddol am berson ofer, diddisgybliaeth, egotistaidd, annymunol neu anweddus sy'n ei chael yn anodd gweithio dan gyfarwyddyd neu fel rhan o dîm, ond y mae ei chyfraniadau yn hanfodol i lwyddiant tîm.[6][7]