Propoffol

Propoffol
Math o gyfrwngmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs178.136 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₂h₁₈o edit this on wikidata
Enw WHOPropofol edit this on wikidata
Clefydau i'w trinPoen, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig, deliriwm lledlym edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b edit this on wikidata
GwneuthurwrPfizer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae propoffol, sy’n cael ei farchnata dan yr enw Diprivan ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy’n effeithiol am gyfnod byr sy’n arwain at lai o ymwybyddiaeth ac at anghofio digwyddiadau.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₂H₁₈O. Mae propoffol yn gynhwysyn actif yn Diprivan.

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Defnydd meddygol

[golygu | golygu cod]

Mae ei ddefnydd yn cynnwys cychwyn a chynnal anesthesia cyffredinol, tawelu ar gyfer oedolion sy'n cael eu hawyru'n fecanyddol, a thawelu gweithdrefnol. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer cyflwr epileptig os nad yw meddyginiaethau eraill wedi gweithio. Fe'i rhoddir trwy chwistrelliad i mewn i wythïen. Mae ei brif effaith yn cymryd tua dau funud i ddigwydd ac yn para am bump i ddeng munud[2].

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • poen
  • dementia cynyrfiadol
  • cyflwr epileptig
  • deliriwm lledlym
  • Defnydd ar gyfer dienyddiad

    [golygu | golygu cod]

    Penderfynodd Goruchaf Lys Missouri ganiatáu defnyddio propoffol i ddienyddio carcharorion a oedd wedi eu condemnio i farwolaeth. Fodd bynnag, ataliwyd y dienyddiad cyntaf drwy weinyddu dos marwol o propoffol ar 11 Hydref 2013 gan y llywodraethwr Jay Nixon yn dilyn bygythiadau gan yr Undeb Ewropeaidd i gyfyngu ar allforio'r cyffur o gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Roedd y Deyrnas Unedig eisoes wedi gwahardd allforio meddyginiaethau neu feddyginiaethau milfeddygol oedd a phropoffol yn eu cynhwysion i'r Unol Daleithiau[3].

    Sgil effeithiau

    [golygu | golygu cod]

    Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfradd calon afreolaidd, pwysedd gwaed isel, teimlad o losgi ar safle'r chwistrelliad, a stopio anadlu. Gall sgil effeithiau difrifol eraill gynnwys ffitiau, heintiau, caethiwed a syndrom trwyth propoffol gyda defnydd hirdymor. Mae'n ymddangos ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid yw wedi cael ei astudio'n dda yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, ni chaiff ei argymell ar gyfer toriad Cesaraidd. Gan nad yw'n feddyginiaeth poen gellir defnyddio opioidau fel morffin gyda propoffol. Gellir ailddechrau bwydo ar y fron cyn gynted ag y bydd y fam wedi gwella'n ddigonol o'r anesthesia.[4]

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Propoffol, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • ICI 35868
  • Diprivan®
  • 2,6-diisopropylphenol
  • Cafodd propofol ei ddarganfod ym 1977. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.

    Cyfeiriadau

    [golygu | golygu cod]
    1. Pubchem. "Propoffol". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Drugs.Com Propofol adalwyd 28 mawrth 2018
    3. Al Jazeera After EU threats, Missouri halts execution by propofol injection adalwyd 28 Mawrth 2018
    4. NICE / BNF PROPOFOL adalwyd 28 Mawrth 2018


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!