Enghraifft o'r canlynol | sefydliad y llywodraeth |
---|---|
Label brodorol | Federal Writers' Project |
Dechrau/Sefydlu | 27 Gorffennaf 1935 |
Isgwmni/au | Historical Records Survey |
Rhiant sefydliad | Works Progress Administration |
Enw brodorol | Federal Writers' Project |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhaglen a weithredwyd gan lywodraeth ffederal Unol Daleithiau America o 1935 i 1939 fel rhan o'r Fargen Newydd oedd y Prosiect Llenorion Ffederal (Saesneg: Federal Writers' Project, FWP) a ddarparodd gymorth ariannol i ysgrifenwyr, newyddiadurwyr, ysgolheigion, golygyddion, llyfrgellwyr, clercod, a gweithwyr ymchwil diwaith. Gweinyddwyd y prosiect gan y Weinyddiaeth Gynnydd Gwaith (WPA) fel rhan o ymdrech y llywodraeth i gyflogi miliynau o'r bobl a gollodd eu swyddi a'u bywoliaeth yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Fe'i cyfarwyddwyd gan Henry Alsberg a gweinyddwyd y gwaith gan rwydwaith o ganghennau lleol a thaleithiol ar draws y wlad. Cyflogwyd uchafswm o 6600 o lenorion ar un pryd. Roedd yn rhan o "Brosiect Ffederal Rhif Un", ynghyd â'r Arolwg Cofnodion Hanesyddol (HRS), y Prosiect Theatr Ffederal (FTP), y Prosiect Cerddoriaeth Ffederal (FMP), a'r Prosiect Celf Ffederal (FAP).
Prif orchwyl yr FWP oedd casglu a golygu'r gyfres "American Guide", gan gynnwys gwybodaeth am ddaearyddiaeth, teithio, llên gwerin, pensaernïaeth, ac agweddau eraill ar hanes diwylliannol ac ethnolegol, gyda chynllun i gynnwys cyfrolau am bob un o 48 o daleithiau'r wlad ac am ddinasoedd, trefi, siroedd, a phriffyrdd.[1] Sgil-gynnyrch y cywaith hwn oedd nifer o weithiau ychwanegol, gan gynnwys hanesion lleol, astudiaethau o grwpiau ethnig ac hil, bywgraffiadau, hanesion cymdeithasol, ac astudiaethau o fyd natur, mwy na 1,000 o lyfrau a phamffledi i gyd.[2]
Daeth cyllid oddi ar y Gyngres i ben ym 1939, ond trosglwyddwyd cyfrifoldebau'r FWP i'r taleithiau yn sgil Deddf CERA ym 1941. Daeth y prosiectau taleithiol i ben ym 1943.
Ymhlith y llenorion enwog a gafodd gymorth oddi ar yr FWP bu Richard Wright, Ralph Ellison, a Saul Bellow.