Enghraifft o'r canlynol | planed allheulol |
---|---|
Màs | 0.00337 ±0.00019 |
Dyddiad darganfod | 24 Awst 2016, Awst 2016 |
Cytser | Centaurus |
Echreiddiad orbital | 0.02 +0.04 -0.02 |
Paralacs (π) | 768.5004 ±0.2 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Planed allheulol yw Proxima Centauri b (gelwir hefyd yn Proxima b[1][2]) sy'n cylchdroi o fewn parth trigiadwy'r seren corrach coch Proxima Centauri, y seren agosaf i'r Haul. Mae wedi ei leoli tua 4.25 blwyddyn golau (1.3 parsec, neu 40,140,000,000,000 km) i ffwrdd o'r Ddaear yng nghytser Centaurus. Hwn yw'r blaned allheulol agosaf i Gysawd yr Haul, yn ogystal â'r allblaned agosaf rydym yn gwybod amdano a allai gynnal bywyd.
Darganfuwyd y blaned gan dîm wedi ei arwain gan Guillem Anglada-Escudé o Queen Mary, Prifysgol Llundain a cyhoeddwyd y darganfyddiad yng nghylchgrawn Nature ar 24 Awst 2016.[3][4][5]
A planet named Proxima b has been discovered orbiting the closest star to our sun.