Pupienus | |
---|---|
Ganwyd | 2 g Rhufain |
Bu farw | 29 Gorffennaf 238 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praefectus urbi |
Tad | Marcus Pupienus Maximus |
Mam | Clodia Pulchra, Pescennia Marcellina |
Priod | Sextia Cethegilla |
Plant | Tiberius Clodius Pupienus Pulcher Maximus, Marcus Pupienus Africanus |
Marcus Clodius Pupienus Maximus (c.164 – 238) oedd ymerawdwr Rhufain am gyfnod byr yn 238.
Yn ôl rhai haneswyr yr oedd Pupienus yn aelod o deulu'r Claudiaid. Dechreuodd ei yrfa dan yr ymerawdwr Septimius Severus a bu'n rhaglaw un o daleithiau Germania ac yn Asia Leiaf. Bu'n gonswl yn 217 a 234 ac yn gyfrifol am weinyddu dinas Rhufain o 230 ymlaen. Pan wrthryfelodd y ddau Gordian yn erbyn Maximinus Thrax yr oedd yn aelod o'r cyngor oedd yn gyfrifol am amddiffyn Italia. Wedi marwolaeth Gordian I a Gordian II enwodd y Senedd ef yn ymerawdwr ar y cyd a Balbinus.
Nid oedd gan y ddau ymerawdwr lawer o ymddiried yn ei gilydd, ac nid oedd yr un o'r ddau yn boblogaidd ymysg y dinasyddion. Cymerodd Pupienus y cyfrifoldeb am wrthwynebu llengoedd Maximinus tra gofalai Balbinus am weinyddu'r wladwriaeth. Cyn i Pupienus orffen ei baratoadau, clywodd fod Maximinus wedi ei ladd gan ei filwyr ei hun. Dychwelodd Pupienus i Rufain fel concwerwr, gan waethygu'r berthynas rhyngddo ef a'i gyd-ymerawdwr ymhellach.
Ers ei gyfnod yn raglaw yn Germania, yr oedd Pupienus yn cadw gwarchodlu o Germaniaid o'i gwmpas. Cymerodd Gard y Praetoriwm hyn fel sarhad, a rhuthrasant i mewn i'r palas a lladd y ddau ymerawdwr. Cyhoeddwyd Gordian III, ŵyr Gordian I, yn ymerawdwr.
Rhagflaenydd: Gordian I a Gordian II |
Ymerawdwr Rhufain 238 gyda Balbinus |
Olynydd: Gordian III |