Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | gêm bat a phêl |
Gêm bat a phêl yw pêl fas Cymreig (neu bêl fas Prydeinig). Does neb a wyr i sicrwydd pryd y dechreuodd gael ei chwarae gan iddo ddatblygu o gyfuniad o gemau bat a phêl ers yr Oesoedd Canol. Serch hynny, gellir dyddio sefydlu pêl fas Cymreig ym 1892 pan cytunodd cyrff llywodraethol y gêm yng Nghymru ac yn Lloegr newid enw'r sport o rownderi i bêl fas. Sefydlwyd Undeb Pêl-fas Cymru yn 1892. Yn 2006 ffuriwyd Undeb Pêl-fas Menywod Cymru o'r UNPFC.
Chwaraeir y gêm bellach mewn tri prif drefnlan - yn wir, dydy'r gêm braidd wedi symud o'r dinasoedd diwydiannol morwrol ers dros canrif. Y dinasoedd Cymreig lle chwaraeir y gêm bron yn escliwsif yw Caerdydd a Chasnewydd. Cyfyngir y gêm yn llwyr i Lerpwl yn Lloegr. Serch hynny, ceir gêm ryngwladol flynyddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae nifer o'r timau yng Nghymru wedi ei lleoli a'i seilio o fewn tîm rygbi lleol, gyda'r gêm yn cynnig ymarfer corff, hwyl ac adloniant adeg yr Haf i aelodau'r clwb rygbi. Efallai fod y strwythur ehangach yma yn un rheswm dros llwyddiant cymharol y gêm yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr.
Mae'r gêm wedi crebachu mewn poblogrwydd yn Lerpwl gyda chwta pedair tîm yn ei chwarae, tra fod y sefyllfa'n iachach yng Nghymru ac hyd yn oed tŵf mewn pêl fas merched. Gobeithwyd cael hwb pellach i'r gêm yng Nghymru gyda chefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol - bu'r cyn Aelod Cynulliad, John Thomas (Plaid Cymru) yn gefnogol iawn i'r gamp. Yn 2017 yn arwydd o gwymp yn y gêm, daeth y gynghrair i ben. Fe'i hatgyfodwyd yn 2021.[1]
Bu i'r gamp fethu â chadw ei phoblogrwydd a chystadlu â gemau mwy cefnog ac uwch eu proffil eraill, megis criced. Cafwyd ymgyrch i roi hwb i'r gêm yn 2022. Trefnwyd i gyflwyno'r gêm i ysgolion ar draws De Ddwyrain Cymru gyda'r uchafbwynt o ŵyl chwaraeon lle daeth 400 o ddisgyblion ysgol ynghŷd i greu 27 tîm yn Ysgol Uwchradd Mair Dihalog (Mary Immaculate HS) yng Nghaerdydd. Yn 2022 cafwyd mwy o dimau'n cystadlu yn gêm y dynion, ac roedd hefyd cynghrair menywod.[2]
Mae'r gamp yn gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd o'r gêm bêl fas mwy adnabyddus.
Er gwaetha'r tebygrwydd i criced, mae'r gêm yn debycach i bêl fas mewn steil a chwaraeir hi mewn deiamwnd tebyg iawn ond llai.
Sefydlwyd y Bwrdd Pêl fas Ryngwladol yn 1927 a dyma ei chorff ryngwladol llywodraethol. Ei hunig aelodau yw Undeb Pêl fas Cymru a Chymdeithas Pêl fas Lloegr.
Chwraeir y gêm yn neheudir Cymru yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac ardal Lerpwl yn Lloegr.
Erbyn 2006 roedd poblogrwydd y gêm yn Lerpwl wedi cwympo i'r fath raddau mai dim ond 4 clwb sy'n weddill yn actif - All Saints, Anfield, Breckside and Townsend. Mae'r gêm yng Nghymru'n llawer cryfach a gwelwyd tŵf mewn poblogwyrr yn y gêm yn arbenig ymhlith merched.
Ceir gemau a chynghreiriau yn y ddwy wlad a gêm ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr ers 1908. Gwyliodd torf o 16,000 y gêm ryngwladol rhwng y ddwy wlad ar erddi Castell Caerdydd yn 1948. Cynhaliwyd gemau rhynglwadol ar feysydd Parc yr Arfau yng Nghaerdydd a Goodison Park yn Lerpwl hyd yn oed. Cwympodd y niferoedd yn y gemau rhynglwadol a bellach ychydig dros mil sy'n mynychu'r gemau.