Quim Monzó | |
---|---|
![]() | |
Geni | Joaquim Monzó i Gómez 24 Mawrth, 1952 Barcelona |
Enw barddol | Quim Monzó |
Cenedligrwydd | Catalan |
Llenor o Gatalwnia yw Quim Monzó (ynganiad = Cim Mŵnsô), sy'n enw farddol Joaquim Monzó i Gómez (ganwyd Barcelona, 24 Mawrth 1952). Mae'n awdur nofelau, straeon ac erthyglau barn, yn bennaf yn yr iaith Catalaneg. Fe'i ddisgrifiwyd fel "un o ysgrifenwyr straeon byrion gorau'r byd".[1]
Astudiodd dylunio graffig yn Barcelona a gweithiodd fel dylunydd graffeg. Daeth yn ysgrifennwr sgriptiau teledu ac wedyn newyddiadurwr. Anfonodd adroddiadau o Fietnam, Cambodia. Gogledd Iwerddon, ac ynysoedd Cefnfor India.
Daeth i sylw'r cyhoedd fel awdur ym 1976 pan gyhoeddwyd ei nofel L'udol del griso a les clavegueres ("Llef llwyd yn y carthffosydd") sydd yn seiliedig yn wrthdystiadau Ffrainc Mai 1968. Ers hynny mae Monzó wedi cyhoeddi dros ddwsin o nofelau eraill gan ennill prif wobrau llenyddol Catalwnia.
Mae Monzó wedi cyfieithu sawl awdur o Saesneg i Gataleneg, gan gynnwys Truman Capote, J. D. Salinger, Ray Bradbury, Thomas Hardy, Harvey Fierstein, Ernest Hemingway, Roald Dahl, ac Arthur Miller. Yn 2017 cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Frankenstein gan Mary Shelley.
Yn 2007 fe'i wahoddwyd i cyflwyno'r araith agoriadol yn Ffair Lyfrau Frankfurt a darllenodd darn o waith creadigol oedd yn dra gwahanol i araith draddodiadol.
Mae Monzó yn ddioddefwr syndrom Tourette, sy'n ei achosi ticiau ysbeidiol i gyhyrau ei wyneb.[2][3]