R. L. Burnside | |
---|---|
R. L. Burnside ar y llwyfan yn Ffair y Byd yn Knoxville, Tennessee (1982). | |
Ganwyd | 23 Tachwedd 1926 Harmontown |
Bu farw | 1 Medi 2005 Memphis |
Label recordio | Fat Possum Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr |
Arddull | y felan |
Canwr, cyfansoddwr caneuon, a gitarydd Americanaidd oedd Robert Lee Burnside (23 Tachwedd 1926 – 1 Medi 2005).
Ganed ef yn Harmontown, Lafayette County, yn nhalaith Mississippi, i deulu o gyfrangnydwyr Affricanaidd-Americanaidd. Ni chafodd fawr o addysg, ac yn ifanc iawn aeth gyda'i rieni i gasglu cotwm ar y planhigfeydd mawr yn Nelta'r Mississippi. Yn niwedd y 1940au, ymunodd Burnside a nifer o'i berthnasau â'r Ymfudiad Mawr gan bobl dduon o daleithiau gwledig De'r Unol Daleithiau i'r dinasoedd ac ardaloedd diwydiannol yn y Gogledd a'r Gorllewin Canol. Symudodd i Chicago, Illinois, ac yno gwrandawodd ar Muddy Waters, un arall o Mississippi, yn canu'r felan. Fodd bynnag, amser truenus oedd hwn i'w deulu yn Chicago: llofruddiwyd ei dad, dau o'i frodyr, a'i ewythr i gyd mewn achosion ar wahân yn y ddinas. Dychwelodd i'w dalaith enedigol, a threuliodd y 1950au yn crwydro'r Delta, bryniau gogledd Mississippi, a Memphis, Tennessee. Yn y cyfnod hwn, saethodd Burnside yn farw ddyn a oedd yn ceisio'i fwrw oddi ar ei dir. Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a'i carcharwyd ar fferm penyd Parchman yn Sunflower County. Wedi chwe mis, rhyddhawyd Burnside o'r carchar.[1]
Dysgodd sut i ganu'r gitâr, dan ddylanwad ei gymydog "Mississippi" Fred McDowell, ac arbenigodd mewn dull Gogledd Mississippi o felan wlad, a elwir hill country blues. Gweithiodd Burnside yn ffermwr tra'n canu ar y penwythnos, ac ym 1967 cafodd ei recordio gan George Mitchell, astudiwr llên gwerin o dalaith Georgia. Rhyddhawyd rhai o'r caneuon gan Arhoolie Records, a dechreuodd gwyliau cerddorol hurio Burnside i berfformio ar y llwyfan. Parhaodd i ganu am fwy nag ugain mlynedd, ond yn anaml y byddai'n perfformio y tu hwnt i ffiniau Mississippi.
Ym 1991, cafodd ei gyfle fawr yn sgil arwyddo contract â'r label recordio Fat Possum, a gychwynwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Mississippi o'r enw Matthew Johnson, gyda chymorth yr awdur Robert Palmer. Ceisiodd Fat Possum farchnata albymau Burnside at yr ieuenctid, gan bwysleisio cyffelybrwydd sain arw y felan i gerddoriaeth pync-roc. Daeth yn boblogaidd ymhlith nifer o bobl ifanc am ffraethineb ac agwedd lom ei ganeuon, ac ymddangosodd yn y ffilm ddogfen Deep Blues (1991)—a sgriptiwyd gan Palmer—am sîn y felan yng ngogledd Mississippi a Memphis. Perfformiodd ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop, a Japan, a chyd-recordiodd ei seithfed albwm, A Ass Pocket of Whiskey (1996), gyda'r Jon Spencer Blues Explosion. Rhoes y gorau i berfformio ar daith ym 1999, oherwydd ei iechyd, a rhyddhawyd ei albwm stiwdio olaf, A Bothered Mind, yn 2004. Bu farw R. L. Burnside ym Memphis, Tennessee, yn 78 oed. Cafodd 12 o blant.[1]