R. S. Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1913 Caerdydd |
Bu farw | 25 Medi 2000 Cricieth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Arddull | telyneg |
Priod | Mildred Elsie Eldridge |
Gwobr/au | Gwobr Cholmondeley, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Heinemann Award, Horst-Bienek-Preis für Lyrik |
Bardd o Gymro oedd Ronald Stuart Thomas neu R. S. Thomas (29 Mawrth 1913 – 25 Medi 2000). Ysgrifennai ei farddoniaeth yn Saesneg ond cyhoeddodd yn ogystal ddarlithiau a chyfrolau rhyddiaith yn Gymraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru oedd e wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Gymraeg ac yr oedd yn genedlaetholwr digymrodedd.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd. Ei wraig oedd Mildred Eldridge, arlunydd o Saesnes.
Treuliodd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor plwyf gwledig Manafon, Powys (1942–1954) a ficer plwyf Eglwys Fach, Ceredigion am dair mlynedd ar ddeg (1954–1967). O Eglwys Fach aeth i weinyddu fel ficer Aberdaron yn Llŷn. Ar ei ymddeoliad o'r eglwys yn 1978, aeth i fyw i bentref y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn. Enillodd yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996.
Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, mae'i gyfrol Uncollected Poems (2013; www.bloodaxebooks.com) yn "dangos bod RS wedi creu campweithiau'r 20g mewn sawl math o gerddi: cerddi am natur y greadigaeth a chân yr adar, canu tanbaid serch a chariad, y canu mwyaf deallus am Gymru fel cenedl..."[1]
Ymddangosodd R. S. Thomas ar raglen radio Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ym mis Chwefror 1996.[2][3][4]