Enghraifft o'r canlynol | gorsaf radio |
---|---|
Daeth i ben | 31 Mai 2019 |
Dechrau/Sefydlu | 14 Rhagfyr 1992 |
Perchennog | Nation Broadcasting |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gorsaf radio ar gyfer glannau Bae Ceredigion oedd Radio Ceredigion. Roedd yn darlledu yn y Gymraeg a'r Saesneg ond bu newid yn y sefyllfa yn 2010 dan ei berchnogion newydd, Town and Country Broadcasting.
Mae cyn-gyflwynwyr enwocaf yr orsaf yn cynnwys Geraint Lloyd, Alun Thomas, Rhuannedd Richards, Bodyshaker, Oliver Hides, Aled Haydn Jones, Sian Evans, Marc Griffiths a Terwyn Davies.
Dan gytundeb ag Ofcom mae Radio Ceredigion yn fod i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, ond ers iddo gael ei gymryd drosodd gan y cwmni darlledu Town and Country Broadcasting mae wedi cael ei feirniadu gan Gyfeillion Radio Ceredigion ac eraill am ddarlledu "bron yn gyfan gwbl yn Saesneg". Mae Ofcom yn arolygu'r sefyllfa.[1]