Radu Lupu | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Tachwedd 1945 ![]() Galați ![]() |
Bu farw | 16 Ebrill 2022 ![]() Lausanne ![]() |
Label recordio | Decca Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, cerddor ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Priod | Elizabeth Wilson, Delia Bugarin ![]() |
Gwobr/au | CBE, Urdd seren Romania ![]() |
Pianydd o Rwmania oedd Radu Lupu CBE (30 Tachwedd 1945 - 17 Ebrill 2022) sy'n cael ei gydnabod fel un o bianyddion mwyaf y byd. [1] [2] [3]
Cafodd Lupu ei eni yn Galați, Rwmania. Dechreuodd ef astudio piano yn chwech oed. Roedd ei athrawon yn cynnwys Florica Musicescu, Dinu Lipatti, a Heinrich Neuhaus (athro Sviatoslav Richter). Rhwng 1966 a 1969, enillodd dair o gystadlaethau piano mwyaf mawreddog y byd: Cystadleuaeth Piano Ryngwladol Van Cliburn (1966), Cystadleuaeth Piano Ryngwladol George Enescu (1967), a Chystadleuaeth Pianoforte Ryngwladol Leeds (1969).
Priododd â'r sielydd Elizabeth Wilson (ganwyd 1947), merch y diplomydd Syr Duncan Wilson, ym 1971.[4] Bu'n byw yn Lausanne, y Swistir, gyda'i ail wraig Delia, feiolinydd.[5] Bu farw yn 76 oed.[6]