Raidió na Life | |
Ardal Ddarlledu | Dinas a maestrefi Dulyn |
---|---|
Arwyddair | cuisle na cathrach ("curiad y ddinas") |
Dyddiad Cychwyn | Medi 1993 |
Tonfedd | FM: 106.4 |
Pencadlys | Sráid Amiens, Dulyn |
Perchennog | Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta |
Webcast | https://www.liveradio.ie/stations/raidio-na-life |
Gwefan | http://www.raidionalife.ie |
Fformat | Cymunedol: cerddoriaeth a siarad |
Iaith | Gwyddeleg a pheth Saesneg |
Mae Raidió na Life 106.4FM neu'n fwy cyffredin, Raidió na Life (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɾˠadʲiːoː n̪ˠə ˈlʲɪfʲə]; sy'n golygu "Radio Life" - Life yw'r brif afon sy'n llifo drwy Ddulyn (gellid awgrymu bod y gair Gwyddeleg Life hefyd yn air mwys ar y Saesneg, "life", sef bywyd) yn orsaf radio Gwyddeleg a sefydlwyd ym 1993 ac sy'n darlledu yn Sir Dulyn, Iwerddon. Yn ogystal â chael ei ddarlledu ar FM, mae allbwn yr orsaf ar gael ledled y byd trwy'r rhyngrwyd.
Daeth yr orsaf radio Wyddeleg annibynnol gyntaf, Raidió na Life 102, i'r awyr ym mis Medi 1993 gan gwmpasu Dulyn a rhai ardaloedd cyfagos. Mae'n darlledu o dan drwydded gan Awdurdod Darlledu Iwerddon.[1] Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta, a sefydlwyd yn 1989, yw’r sefydliad sy’n berchen ar ac yn gweithredu Raidió na Life 106.4fm. Ym mis Hydref 2017, symudodd yr orsaf o swyddfeydd 7 Merrion Square i stiwdios pwrpasol newydd ym mhencadlys newydd Foras na Gaeilge, a leolir yn 63-66 Amiens Street ar ochr ogleddol y ddinas.[2][3]
Comharchumann Raidió Átha Cliath Teoranta (CRÁCT) yw’r fenter gydweithredol a sefydlwyd ar 4 Gorffennaf 1989 fel sefydliad dielw i oruchwylio’r cais i sefydlu a gweithredu Raidió na Life. Mae aelodaeth o CRÁCT yn agored i unrhyw un sy'n prynu cyfran yn yr orsaf. Ar hyn o bryd mae gan CRÁCT 380 o gyfranddalwyr ac mae o dan gyfarwyddyd y Bwrdd Rheoli.
Yn Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd ym mis Mehefin yn ninas Kemper, Llydaw, enillodd yr orsaf wobr, Gorsaf Radio y Flwyddyn.[4]