Math | anheddiad dynol, Cibwts |
---|---|
Poblogaeth | 479 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jezreel Valley Regional Council |
Gwlad | Israel Palesteina |
Uwch y môr | 86 metr |
Cyfesurynnau | 32.6786°N 35.2038°E |
Cibwts yng ngogledd Israel yw Ramat David (llyth. Uchelderau Dafydd).[1] Mae yn Nyffryn Jezreel ger Canolfan Awyr Ramat David, ac mae'n dod o dan awdurdodaeth Cyngor Rhanbarthol Dyffryn Jezreel. Yn 2021 roedd 542 o bobl yn byw yno.
Sefydlwyd y cibwts ym 1926. Cafodd ei enwi ar ôl David Lloyd George, Cymro, arweinydd y Blaid Ryddfrydol, a Seionydd Cristnogol a oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pan wnaed Datganiad Balfour. Lluniodd y pensaer Almaenig-Iddewig Richard Kauffmann gynlluniau ar gyfer dyluniad Ramat David ym 1931.[2]
Yn gynnar ym 1941 glaniodd Roald Dahl (a anwyd yng Nghymru) mewn awyren RAF Hurricane yn Ramat David.[3] Disgrifiodd y plant (a oedd yn ffoaduriaid Iddewig o'r Almaen) a oedd yn byw yno bryd hynny yn ei hunangofiant Going Solo.[4]
Ar 22 Mai 1948 ymosododd awyrennau Eifftaidd ar y ganolfan awyr, gan ddifrodi a dinistrio nifer o awyrennau Llu Awyr Brenhinol Prydain.[5]