Ras arfau

Cylchred o weithredyddion yn cystadlu dros fantais strategol trwy gryfhau neu gynyddu eu galluedd milwrol, er enghraifft drwy gynhyrchu rhagor o arfogaethau, yw ras arfau. Yn aml mae ras arfau yn digwydd cyn cychwyn rhyfel neu wrthdaro arall, ac mae sawl un yn dadlau bod y ras arfau ei hun sydd yn achosi'r trais hynny, neu yn gwneud y trais yn fwy tebygol o ddigwydd.

Patrwm cylchol o weithredu ac ymateb ydy proses sylfaenol y ras arfau. Yn nhermau seiberneteg, enghraifft o adborth positif ydyw sydd yn dwysáu o ganlyniad i newidiadau bychain i gychwyn.[1] Mae ysgolheigion yn ceisio deall rasys arfau drwy ddehongliadau systemig a thrwy ddamcaniaeth gemau, ac mae bodolaeth y cyfyng-gyngor diogelwch o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn ganolog i ddeinameg y ras arfau.[2]

Rasys arfau hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), t.34.
  2. Andrew O'Neil, "Arms race", yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, gol. Martin Griffiths (Llundain: Routledge, 2005), tt.31–3.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) arms race. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2013.