Athroniaeth yw realaeth sy'n honni fod i gysyniadau hollgyffredinol fodolaeth real sy'n annibynnol ar ganfyddiad dynol. Fe'i chyferbynnir ag enwoliaeth, yr athrawiaeth sy'n dal taw enwau yn unig yw cysyniadau cyffredinol ac haniaethol a heb realiti sy'n cyfateb iddynt.