Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Alfred Hitchcock |
Ysgrifennwr | Cornell Woolrich (stori) John Michael Hayes |
Serennu | James Stewart Grace Kelly Wendell Corey Thelma Ritter |
Cerddoriaeth | Franz Waxman |
Sinematograffeg | Robert Burks |
Golygydd | George Tomasini |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures (1954-83) Universal Studios(ers 1983) USA Films (ail-ryddhad 2000) |
Dyddiad rhyddhau | 1 Awst 1954 |
Amser rhedeg | 112 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Ffilm arloesol gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock sy'n serennu James Stewart yw Rear Window (1954). Mae'r actorion eraill yn cynnwys Grace Kelly (cariad cymeriad Stewart) a Raymond Burr.
Dyma un o ffilmiau iasoer mwyaf cyfareddol ac arloesol Hitchcock. Cyfyngir y saethu i un stafell yn unig, lle ceir Stewart yn chwarae rhan ffotograffyd sydd mewn cadair olwyn oherwydd damwain. Fel sawl ffilm gan Hirchcock ceir elfen gref o voyeurism yn y ffilm, gyda Stewart yn gwylio bywyd personol pobl trwy ffenestri'r fflatiau cyfagos, pob un ohonynt yn ymagor ar fyd o gyfrinachau a drama annisgwyl.