Red Bull Stratos

Prosiect yn ywneud â'r nen-ddeifiwr Awstriaidd Felix Baumgartner a chyn-Gyrnol USAF Joseph Kittinger ydy Red Bull Stratos. Bwriad y fenter oedd bod Baumgartner yn hedfan tua 23 milltir (37 km)[1] i mewn i'r stratosffer uwchben Roswell, Mecsico Newydd mewn balwn heliwm cyn disgyn drwy'r awyr a pharasiwtio nol i'r Ddaear.[2] Bydd Baumgartner yn ceisio torri'r mur sain wrth iddo ddisgyn, ac ef fydd y person cyntaf i wneud hynny heb gymorth peiriant.[2] Bydd Baumgartner hefyd yn ceisio torri tair record arall, sef yr hediad dynol uchaf mewn balwn, y naid uchaf, a'r cwymp hiraf. Disgwylir iddo ddisgyn heb barasiwt am o leiaf pum i chwech munud,[3] gyda'r cwymp cyfan (hyd nes y bydd yn glanio ar y ddaear) yn para oddeutu deg munud.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: