Reginald Wolfe | |
---|---|
Bu farw | 1573 |
Galwedigaeth | argraffydd |
Gwerthwr llyfrau ac argraffwr Iseldiraidd oedd Reginald Wolfe neu Reyner Wolfe (bu farw diwedd 1573 neu ddechrau 1574) a ymsefydlodd yn Lloegr.
Ganed ef yn Druten yn Nugiaeth Gelderland. Ymsefydlodd yn Strasbwrg, un o ddinasoedd rhydd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yno cychwynnodd ar ei yrfa yn y diwydiant argraffu a'r fasnach lyfrau.
Wedi iddo symud i Loegr, rhywbryd cyn 1530, ymsefydlodd yn Llundain gyda'i fusnes werthu llyfrau ym Mynwent St Paul. Sefydlodd ei wasg ym 1542, ac efe oedd yr argraffwr cyntaf yn Lloegr i feddu ar stoc fawr o deip yr wyddor Roeg o ansawdd da. Cyhoeddodd Wolfe y llyfr Groeg cyntaf i'w argraffu yn Lloegr—testun Lladin a Groeg o homilïau Ioan Aurenau, dan olygyddiaeth John Cheke—ym 1543.
Ym 1547 fe'i penodwyd yn Argraffwr y Brenin Edward VI yn yr ieithoedd Lladin, Groeg, ac Hebraeg. Daeth hefyd dan nawdd Matthew Parker, Archesgob Caergaint, yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth.[1] Wolfe oedd un o aelodau gwreiddiol Cymdeithas y Safwerthwyr pan dderbyniodd ei siarter frenhinol ym 1557. Nid oes cofnod o'i ddyddiad marw, ond profwyd ei ewyllys ar 9 Ionawr 1574.[2] Etifeddodd ei fab John Wolfe (bu farw 1601) y fusnes.