Remember Me (cân)

Mae "Remember Me" yn gân o'r ffilm animeiddiedig Pixar o 2017, Coco. Cafodd ei ysgrifennu gan Robert Lopez a Kristen Anderson-Lopez. Perfformir y gân yn amrywiol o fewn y ffilm gan Benjamin Bratt, Gael García Bernal, Anthony Gonzalez, ac Ana Ofelia Murguía. Mae Miguel a Natalia Lafourcade yn perfformio fersiwn bop o'r gân sydd yn ymddangos yng nghredydau diwedd y ffilm. Recordiodd Carlos Rivera fersiwn o'r gân, o'r enw "Recuérdame" ar gyfer albwm trac sain Sbaeneg y ffilm. Enillodd y Gân Wreiddiol Orau yng Ngwobrau’r Academi yn 2018.

Cyd-destun

[golygu | golygu cod]
Lleisiodd Gael García Bernal Héctor yn fersiynau Saesneg a Sbaeneg y ffilm.

Defnyddir y gân mewn amrywiaeth o gyd-destunau trwy gydol y ffilm. O fewn y ffilm, cân fwyaf poblogaidd Ernesto de la Cruz (Benjamin Bratt) yw hon a ysgrifennwyd gan ei bartner cerdd Héctor Rivera (Gael García Bernal). Fe'i cyflwynir gyntaf mewn trefniant mariachi, fel ple gan Ernesto i'w gefnogwyr i'w gadw yn eu meddyliau hyd yn oed wrth iddo deithio mewn lleoedd eraill. Yna mae'n ymddangos fel hwiangerdd o Héctor i'w ferch Coco, pan mae rhaid iddo deithio'n bell fel cerddor teithiol. Yna fe'i defnyddir fel cân hiraethus i gysylltu Coco hŷn (Ana Ofelia Murguía) ag amser cynharach yn ei bywyd ac i aduno Miguel (Anthony Gonzalez) gyda'i hen fam-gu. Yna mae'n ymddangos mewn fersiwn bop a chwaraewyd yn ystod y credydau diwedd, wedi'i chanu gan y cantorion Miguel a Natalia Lafourcade.

Y cân yw'r tei sy'n clymu nifer o genedlaethau yn y cariad a rennir at gerddoriaeth.[1]

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Cafodd y tîm o'r ffilm Frozen, Kristen Anderson-Lopez a Robert Lopez, eu cyflogi ar gyfer y prosiect. Roedd y cyfarwyddwr Lee Unkrich wedi eu hedmygu ers iddyn nhw ysgrifennu Finding Nemo - The Musical yn 2006. Datblygodd y ffilm yn sioe gerdd, ond nid yn fath "torri i mewn i gân". Her gyda'r gân oedd llunio geiriau a fyddai'n newid mewn ystyr yn dibynnu ar y cyd-destun y cawsant eu canu ynddo. Ymchwiliodd y tîm i gerddoriaeth boblogaidd Mecsicanaidd, ac roeddent eisiau ysgrifennu cân y gallai Jorge Negrete neu Pedro Infante fod wedi ei chanu. Fe wnaethant ei ysgrifennu fel cân arddull bolero-ranchero, gan wybod y gallai weithio hefyd pe bai'n cael ei pherfformio fel baled dawel. Ysgrifennodd Robert y gerddoriaeth, ac ysgrifennodd Kristen y geiriau. Roedd hi eisiau archwilio'r syniad o gofio pobl pan maen nhw'n bell i ffwrdd, ac esboniodd "bŵer cerddoriaeth i ddod â phobl yn ôl yn fyw, yn llythrennol ac yn ffigurol".[1]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Enillodd "Remember Me" Wobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau (gyda'r fuddugoliaeth hon, y cyfansoddwr Robert Lopez yw'r enillydd EGOT dwbl cyntaf erioed). Enillodd y gân hefyd Wobr Critic's Choice ar gyfer Cân Orau, ac fe’i henwebwyd am Wobr Golden Globe am y Gân Wreiddiol Orau a’r Wobr Grammy am y Gân Orau a Ysgrifennwyd ar gyfer y Cyfryngau Gweledol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Burlingame, Jon (2018-01-05). "How 'Frozen' Hitmakers Covered the Same Song Four Ways in 'Coco'". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-07.