Enghraifft o'r canlynol | rhaglen newyddion, cyfres deledu |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith wreiddiol | Scottish English |
Gwefan | https://www.bbc.co.uk/scotlandnews |
Rhaglen newyddion deledu genedlaethol BBC Scotland ydy Reporting Scotland; mae'r brif raglen yn cael ei darlledu pob Llun - Gwener ar BBC One Scotland am 18:30 - 19:00 gyda bwletinau byr trwy'r dydd, o'r bwletinau byrion yn ystod rhaglen Breakfast ar BBC One Scotland, hyd at y rhaglen hwyr am 22:30 ar ôl y BBC News at Ten.
Mewn adroddiad academaidd o'r enw The Fairness in the First Year?, cyflwynwyd tystiolaeth fod Reporting Scotland a rhaglenni eraill gan BBC Scotland wedi gogwyddio yn erbyn annibyniaeth i'r Alban, ac nad oeddent yn niwtral eu tueddiadau.[1]