Organyn isgellog a ddarganfyddir mewn cellewcaryotig yw reticwlwm endoplasmig (a elwir yn RE yn fyr). Mae’n rhwydwaith bilen estynnol o sisternâu (adeileddau codenffurf) o fewn sytoplasm y gell sydd wedi’i uno gyda’r amlen gnewyllol. Mae pilen ffosffolipid y reticwlwm yn amgáu gwagle o’r sytosol, a elwir yn waglyn sisternol neu lwmen. Mae swyddogaethau’r reticwlwm endoplasmig yn ddibynnol ar y fath o reticwlwm a'r fath o gell. Mae yna dair ffurf i'r reticwlwm endoplasmig sy’n weladwy yn y rhan fwyaf o gelloedd: reticwlwm endoplasmig llyfn, reticwlwm endoplasmig garw a reticwlwm sarcoplasmig.[1]
Mae’r reticwlwm endoplasmig llyfn yn cynnwys nifer o ensymau pilennog, yn cynnwys nifer o ensymau sydd yn cymryd rhan yn synthesis lipidau, ocsidiad a dadwenwyno cyfansoddion estron (senobiotigion) fel cyffuriau. Mae ganddynt nifer o swyddogaethau metabolaidd eraill, fel rheoli crynodiad Calsiwm y gell, cymryd rhan yn metabolaeth carbohydradau a glynu derbynnyddion wrth broteinau cellbilennau. Darganfyddir RE llyfn yn nifer o wahanol fathau o gell a maent â pwrpasau gwahanol ym mhob un. Mae RE llyfn yn cynnwys tiwbynnau a fesiglau sy'n canghennu i ffurfio rhwydwaith sy’n cynyddu arwynebedd ar gyfer prosesau metabolaidd ac ar gyfer storio ensymau.
Enwyd y reticwlwm endoplasmig garw oherwydd presenoldeb nifer o ribosomau ar bilen allanol y reticwlwm. Mae hyn yn rhoi ymddangosiad garw i'r RE. Mae'r ribosomau yma yn benodol yn syntheseiddio proteinau sy'n cael eu secretu gan y gell neu proteinau i'w defnyddio yn y bilen blasmaidd a rhai organynnau cellog. Mae'r RE garw yn barhaol gyda haen allanol yr amlen gnewyllol, ac felly mae modd i drosglwyddo deunyddiau rhwng cnewyllyn y gell a'r rhwydwaith Reticwlwm Endoplasmig. Er nad oes pilen ddi-dor rhwng yr RE garw a'r organigyn Golgi, bydd fesiglau pilennog yn trosglwyddo proteinau rhwng y ddau. Mae'r RE garw yn cydweithio â’r organigyn Golgi i gyfeirio proteinau newydd i'r llefydd cywir.[2]
Mae’r reticwlwm sarcoplasmig yn fath arbennig o RE llyfn a ddarganfyddir mewn cyhyr rhesog. Yr unig wahaniaeth adeileddol rhwng reticwlwm sarcoplasmig a RE llyfn yw'r gymysgedd o broteinau sydd ynddynt. Oherwydd hyn, mae'r reticwlwm sarcoplasmig yn fwy addas ar gyfer storio a pwmpio ionau Calsiwm, sy'n bwysig ar gyfer ysgogi cyfangiad cyhyrol.[3] Yn gyferbynniol, mae RE llyfn yn fwy addas ar gyfer syntheseiddio molecylau.
Arsylwyd retiwclwm endoplasmig yn gyntaf gan Keith R. Porter o dan ficrosgôp electron yn ystod ei waith ar feithriniad meinweoedd yn athrofa ymchwil meddygaeth Rockerfeller yn Efrog Newydd yn 1944.[4]
↑A study of tissue culture cells by electron microscopy., Keith R. Porter, Albert Claude a Ernest F. Fullam. (derbynwyd ar gyfer cyhoeddiad yn Nhachwedd 1944)