Llangollen Railway | |
---|---|
Gorsaf Reilffordd Llangollen o'r lan arall Afon Dyfrdwy | |
Ardal leol | Cymru |
Terminws | Carrog a chyn bo hir Corwen |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilffordd Llangollen |
Maint gwreiddiol | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Ymddiriodolaeth Reilffordd Llangollen |
Gorsafoedd | 4, ac 1 arhosfa |
Hyd | 8.5 milltir (13.7 km) |
Maint 'gauge' | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Hanes (diwydiannol) | |
1862 | Agorwyd |
1877 | Daethpwyd yn rhan o Reilffordd y Great Western |
1964 | Caewyd |
Hanes (Cadwraeth) | |
1975 | Cymerwyd drosodd Gorsaf Reilffordd Llangollen gan y gymdeithas, a dechreuwyd gwaith atgyfodi |
1980 | Derbynwyd y reilffordd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn |
1981 | Cyrhaeddwyd Pentrefelin |
1986 | Ail-agoriad yr estyniad a Berwyn |
1990 | Estyniad i Arhosfa Glanddyfrdwy |
1993 | Estyniad i Lyndyfrdwy |
1996 | Estyniad i Garrog |
2011 | Dechreuwyd gwaith ar estyniad i Gorwen |
2012 | Cyrhaeddwyd Arhosfa Bonwm |
Pencadlys | Llangollen |
Rheilffordd Llangollen | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Mae Rheilffordd Llangollen (Saesneg: Llangollen Railway) yn rheilffordd sy'n rhedeg am 7.5 milltir neu 12 km, rhwng Llangollen a Carrog, yn Sir Ddinbych, Cymru. Yn 2023 agorwyd estyniad o Garrog i Gorwen.
Agorwyd y Rheilffordd Dyffryn Llangollen (Saesneg: Vale of Llangollen Railway) i drenau nwyddau ar 1 Rhagfyr 1861, ac i deithwyr ar 2 Mehefin 1862. Gadawodd y lein rhwng Caer ac Amwythig hanner milltir i'r de o Riwabon. Roedd hyd y lein pum milltir a chwarter, ac roedd gorsafoedd yn Acrefair ac yn Nhrefor.
Ymgorfforwyd y Rheilffordd Llangollen a Chorwen ar 6 Awst 1860. Creuwyd Twnnel Berwyn, twnnel 689 llath o hyd trwy'r Berwyn. Agorwyd y lein ar 8 Mai 1865. Roedd trenau wedi teithio rhwng Corwen a Dinbych ers 1864. Agorwyd y rheilffyrdd rhwng Corwen ac Y Bala ac ymlaen i Ddolgellau ym 1868.
Ym 1896 daeth y rheilffordd rhwng Rhiwabon a Chorwen yn rhan o Rheilffordd y Great Western. Agorwyd gorsaf ychwanegol, Garth a Sun Bank Halt, ym 1905.
Caewyd y lein rhwng Rhiwabon, Y Bala ac Abermaw i deithwyr ar 18 Ionawr 1965, a chaewyd y rheilffordd yn gyfan gwbl ar 1 Ebrill 1968.
Cyfarfu grŵp o selogion, y Gymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Y Fflint a Glannau Dyfrdwy, ym 1972 i ystyried gwarchod lein yng Ngogledd Cymru. Ystyriwyd y lein rhwng Prestatyn a Dyserth yn gyntaf,[1] ond ym 1974, trowyd eu sylw at Langollen. Ar y pryd roedd yn gynlluniau i adeiladu fflatiau neu gwesty ar safle gorsaf reilffordd Llangollen ac roedd hefyd yn gynllun i adeiladu ffordd osgoi ar draws drwyth y lein i'r gorllewin o Langollen. Ond cytunodd Cyngor Sir Clwyd i roi prydles i'r Gymdeithas ar gyfer tair milltir o'r lein am bum mlynedd ar amod bod milltir o gledrau wedi cael ei gosod erbyn diwedd y pum mlynedd. Rhoddwyd dwy injan gan gwmni Courtauld, a hefyd 30 troedfedd o gledrau. Erbyn 13 Medi 1975, roedd yna 60 troedfedd o gledrau, pan gynhaliwyd y diwrnod agored cyntaf, yn defnyddio injan diesel, Eliseg, sydd wedi cyrraedd o ffatri Brychdyn Hawker Siddeley – Ffatri Airbus UK, Brychdyn erbyn heddiw.
Ym 1976, daeth milltir a hanner o gledrau eraill o burfa olew Shell yn Stanlow. Sefydlwyd Cymdeithas Rheilffordd Llangollen ym 1977.
Gan fod y cwmni wedi cyflawni amodau y brydles gyntaf erbyn 1980, wrth cwblhau milltir o gledrau, rhoir prydles am dair milltir arall gan Cyngor Sir Clwyd ac un arall, hyd at Gorwen, gan Cyngor Bwrdeistref Glyndŵr. Dechreuodd gwasanaeth ar gyfer teithwyr ar 26 Gorffennaf 1981 ar filltir gyntaf y lein.
Cyrhaeddwyd Berwyn ym 1985, a dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ym Mawrth 1986. Dechreuwyd gwaith ar estyniad arall, hyd at Arhosfa Glandyfrdwy ym 1989, gan gynnwys ailosod cledrau trwy Twnnel Berwyn, 689 llath o hyd. Cyrhaedodd y drên gyntaf yr Arhosfa ar 16 Mehefin 1990.
Dechreuwyd cynllunio estyniad i Lyndyfrdwy ym 1990. Roedd yr orsaf wedi cael ei dymchwel, a wedi dod yn maes chwarae ar gyfer plant. Adeiladwyd dau blatfform newydd, a daeth hen adeilad o Northwich i fod yn adeilad newydd i'r orsaf, oherwydd roedd yr un cynt wedi cael ei werthu. Daeth y bont rhwng y platfformau o'r Trallwng. Dechreuodd gwaith i osod y cledrau ym Mawrth 1991. Cyrhaeddodd y trên gyntaf ar 17 Ebrill 1992.
Dechreuwyd gwaith ar estyniad i Garrog) yn Ngorffennaf 1994, ac agorwyd y lein hyd at Garrog ar 2 Mai 1996. Cyrhaeddodd y lein Gorwen ar 22 Hydref 2014.[2]
Osgowyd argyfyng cyllidol oherwydd rhoddion o £125,000 gan gefnogwyr yr rheilffordd, yn dilyn colledion o £330,601 yn 2018, £329,175 yn 2019 a £258,804 yn 2020.[3][4][5] Cyhoeddwyd y cwmni yn mis Ebrill 2020 bod posibiliad o gau’r rheilffordd oherwydd effaith Cofid-19, a gorfodwyd canslo’r gwasanaeth trenau.[6]. Ym Mae 2020, soniodd y Prif Weinidog Boris Johnson am ddyfodol disglair y rheilffordd ar ôl iddynt dderbyn rhoddion o £75,000.[7] Derbynwyd £161,000 oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Awst 2020 oherwydd y problemau cyllidol o gau’r rheilffordd[8], ond wedyn roedd rhaid lansio apêl yn Nhachwedd 2020 i drwsio’r Bont Dyfrdwy.[9]. Cyhoeddwyd yn Rhagfyr 2020 bod gwaith yn dal i fynd ymlaen gyda'r estyniad i Gorwen.[10] Cyhoeddwyd y rheilffordd ar 1 Mawrth 2021 dod y cwmni’n mynd i law’r derbynnydd, gyda dyledion o £350,000.[11]Disgwylwyd ail-agoriad y rheilffordd gan Ymddiriedolaeth y rheilffordd ar 9 Gorffennaf 2021[12] a dechreuodd gwasanaeth rhwng Llangollen a Berwyn gyda uned diesel. Ym mis Awst 2021, dechreuodd gwasanaeth stêm neu ddiesel rhwng Llangollen a Glyndyfrdwy [13]
Rhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Perchennog | Dyddiad | Llun |
---|---|---|---|---|---|---|
80072 | BR dosbarth 4 2-6-4T | Gweithio'n rheolaidd; tystysgrif boeler hyd at 2019. | Du BR efo llinellau a bathodyn diweddar. | Cwmni Locomotif Stêm 80072 | 1953 | ~ |
No. 5643 | GWR dosbarth 5600 0-6-2T | Adeiladwyd 5643 yng Ngwaith Swindon ar gyfer gwaith yn Ne Gymru efo gweddill y dosbarth. Tynnwyd o waith ar ôl 38 mlynedd ym 1963 ac aeth i Iard Sborion y Brodyr Woodham yn Y Barri i'w dorri a gwerthu. Wedi goroesi hyd at 1983, aeth i Carnforth ac wedyn i bencadlys y Gymdeithas Rheilffordd Lakeside yn Haverthwaite. Adferwyd ar ôl symud, ac aeth i Langollen, lle ailddechreuodd ei waith yn 2006. tystysgrif boeler hyd at 2019. | Gwyrdd BR efo llinellau a bathodyn diweddar. | Ymddiriodoledd Rheilffordd Furness. | 1925 | |
No. 5199 | GWR Dosbarth 5101 Class 2-6-2T | Treuliodd 5199 mwyafrif ei gyrfa yn ardal Birmingham. Aeth hi Iard Sborion y Brodyr Woodham yn Y Bari ac arhosodd yna am 22 mlynedd. Wedyn aeth i Reilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig, lle dechreuodd gwaith adfer, wedyn i Long Marston ac o'r diwedd i Langollen, lle cwblhawyd y gwaith adfer yn 2003. Benthycwyd gan Reilffordd Dyffryn Churnet hyd at 2012, pan ddychelodd i Langollen. Tystysgrif boeler hyd at 2013. | Gwyrdd BR efo bathodyn cynnar. | Prosiect 5199. | 1934 | |
No. 6430 | GWR Dosbarth 6400 Class 0-6-0PT | Cyfarparwyd dosbarth 6400 o locomotifau tanciau panier i weithredu ar drenau 'Autocoach' y GWR. Adeiladwyd 6430 yng Ngwaith Swindon a dechreuodd gwaith yn Chwefror 1937. Treuliodd amser maith yng Nghymru, cyn symud i Laira, Plymouth ym 1962 ac i Gyffwrdd Exmouth ym 1964. Ar 5 Mehefin 1965, symudodd i Reilffordd Dyffryn Dart[14] Tystysgrif boeler hyd at 2013. Aeth yn ôl i Reilffordd Dyffryn Dart yn 2012, oherwydd bod gan y reilffordd prinder o locomotifau yn ystod tymor prysur yr haf.[15] | Gwyrdd BR efo bathodyn cynnar. | Perchennog preifat. | 1937 | |
No. 3802 | GWR Dosbarth 2884 Class 2-8-0 | Gweithio'n rheolaidd. | Gwyrdd GWR | Perchennog preifat. | 1938 | |
GWR Dosbarth 7800 Class 7822 Foxcote Manor | GWR Dosbarth 4-6-0 | Ailddechreuodd waith yn 2011 ar ôl adferiad dros 3 blynedd. Tystysgrif boeler hyd at 2021, ond yn cael ei drwsio eto yng Ngweithdy Llangollen (Mai 2015) | Gwyrdd BR efo bathodyn diweddar | Cymdeithas 'Foxcote Manor' | 1950 | |
LMS Dosbarth 5 Stanier 4-6-0 44806 Kenneth Aldcroft]] | LMS Dosbarth 5 Stanier 4-6-0 | Dechreuodd 44806 ei gyrfa ar reilffyrdd treftadaeth ar Reilffordd Lakeside and Haverthwaite Railway, lle gweithiodd am gyfnod byr ym 1973 cyn angen trwsio. Symudodd i Amgueddfa Steamtown yn Southport ac wedyn i'r Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant ym Manceinion ym 1983. 10 mlynedd yn hwyrach, cyrhaeddodd Llangollen, lle dechreuodd gwaith eto ym 1995 am 10 mlynedd arall. Enwyd y locomotif “Kenneth Aldcroft” ar ôl ei chyn-perchennog. Ar ôl atgyweiriad byr, dechreuodd gwaith eto yn Awst 2007. Tystysgrif boeler hyd at 2017. | Du BR efo llinellau a bathodyn diweddar. | Perchennog preifat. | 1944 | |
47298 | LMS Dosbarth 3F Fowler 0-6-0T | Dechreuodd waith eto yn ddiweddar ar ôl atgyweiriad. Defnyddiwyd ar gyfer digwyddiadau Tomos y Tanc yn Llangollen ac ar reilffyrdd eraill. | Glas Tomos y Tanc.. | Perchennog preifat. | 1924 | |
Jennifer | Hudswell Clarke 0-6-0T | Yn gweithio. Treuliodd 2011 ar Reilffordd Gwili. Tystysgrif boeler hyd at 2018. | Gwyrdd tywyll. | Rheilffordd Llangollen. | 1942 | ~ |
Darfield rhif 1 | Cwmni Hunslet Engine 0-6-0ST | Tystysgrif boeler hyd at 2016. | Gwyrdd disglair. | Perchennog preifat. | 1953 | ~ |
Jessie | Cwmni Hunslet 0-6-0ST | Ailadeiladwys efo tanciau ar ei ochrau er mwyn gweithio fel copi trwyddedig 'Tomos'. Llogwyd i reilffyrdd eraill yn aml ar gyfer digwyddiadau Tomos. | Glas 'Tomos y Tanc'. | Perchennog preifat. | 1937 | ~ |
Rhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Perchennog | Dyddiad | Llun |
---|---|---|---|---|---|---|
Desmond | Cwmni Avonside 0-4-0ST]] | Yn cael atgyweiriad mawr. | Perchennog preifat. | 1904 | ~ | |
No. 5532 | Dosbarth 4575 GWR 2-6-2T | Yn cael atgyweiriad. | Gwyrdd GWR. | Grŵp GWR, Rheilffordd Llangollen. | 1928 | ~ |
No. 5539 | Dosbarth 4575 GWR 2-6-2T | Yn cael atgyweiriad. | Perchennog preifat. | 1928 | ~ | |
7754 | Dosbarth 5700 GWR 0-6-0PT | Atgywirir i gael tystysgrif boeler newydd. | Du BR efo bathodyn cynnar. | Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen. | 1930 | |
28 | Dosbarth O1 Rheilffordd Cwm Taf 0-6-2T | Atgyfodir gan bartneriaeth rhwng Cymdeithas Rheilffordd Llangollen, Rheilffordd Gwili ac Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol, Efrog.[16] | Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol, Efrog, o dan gwarchodaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru | |||
6880 Betton Grange | Dosbarth 6800 GWR 4-6-0 | Adeiladir. Ni chadwyd unrhyw locomotif o'r dosbarth, felly sefydlwyd Cymdeithas 6880 er mwyn ei hadeiladu.Cymdeithas 6880 [17] | Cymdeithas 6880. | ~ | ||
45551 The Unknown Warrior | Dosbarth 'Patriot' LMS 4-6-0 | Adeiladir. Ni chadwyd unrhyw locomotif o'r dosbarth, felly sefydlwyd Prosiect Patriot LMS er mwyn ei hadeiladu.Cymdeithas 6880 | Prosiect Patriot LMS. | ~ |
Rhif ac enw | Disgrifiad | Hanes a statws presennol | Lifrai | Perchennog | Dyddiad | Llun |
---|---|---|---|---|---|---|
2859 | Dosbarth 2800 GWR 2-8-0 | yn iard Llangollen. | Gwyrdd BR | Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen GWR. | 1918 | |
5952 Cogan Hall | Dosbarth 4900 GWR 4-6-0 | Prynwyd o Ymddiriedolaeth Rheilffordd Cambrian yn 2011. Yn iard Llangollen. Defnyddir tender a bogi blaen ar Betton Grange. | Gwyrdd BR | Cymdeithas 6880. | 1935 |
Rhif ac enw | Disgrifiad | Stats | Lifrai |
---|---|---|---|
Eliseg | SPW Marchnerth 40 Siwntiwr 0-4-0 | Yng nghadw | N/A |
D2892 'Pilkington' | Cwmni Injan Swydd Efrog Yorkshire Engine Co. Siwntiwr 0-4-0 | Gweithredol | Gwyrdd BR |
D2899 | Cwmni Injan Swydd Efrog Yorkshire Engine Co. Siwntiwr 0-4-0 | Mae'r peiriant angen trwsiad. | Du BR |
03162 | Dosbarth 03 BR 0-6-0 | Disgwyl am drwsiad i drawsyriant. | Glas BR |
08195 | Dosbarth 08 BR Siwntiwr | Gweithredol | Du BR |
'Davy' | Cymysg Dosbarthiadau 08 a 10 BR | Disgwyl am fatris newydd. | Du BR |
D5310 | Dosbarth 26 BR Locomotif Bo-Bo | Gweithredol | Gwyrdd BR |
D6940 | Dosbarth 37 BR Locomotif Co-Co | Adeiladwyd ym 1964. Gweithredol | Glas BR |
D1566 'Orion' | Dosbarth 47 BR Locomotif Co-Co | Gweithredol | Gwyrdd BR dau liw. |