![]() | |
Trên Rhif 4 Edward Thomas yn aros yng Ngorsaf Tywyn, Ebrill 2005 | |
Ardal leol | Cymru |
Terminws | Gorsaf reilffordd Tywyn (Harbwr) |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilffordd Talyllyn |
Maint gwreiddiol | 2 tr 3 modf (686 mm) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Cwmni Rheilffordd Talyllyn (Talyllyn Railway Company), cefnogir gan Gymdeithas Gadwraeth Rheilffordd Talyllyn |
Gorsafoedd | 7 a 5 arhosiad |
Hyd | 7.25 milltir (11.67 km) |
Maint 'gauge' | 2 tr 3 modf (686 mm) |
Hanes (diwydiannol) | |
1865 | Dyrchafiad brenhinol |
1866 | Agorwyd |
1911 | Gwerthwyd i Henry Haydn Jones |
1946 | Y chwarel yn cau |
Hanes (Cadwraeth) | |
1951 | Y Gymdeithas Gadwraeth yn cymryd drosodd |
1976 | Agor Estyniad Nant Gwernol |
2001 | Dathlu 50 mlynedd o Gadwraeth |
2005 | Gorsaf ac amgueddfa newydd yn Nhywyn |
2011 | Dathlu 60 mlynedd o Gadwraeth |
Mae Rheilffordd Talyllyn yn rheilffordd cledrau cul 2.3 troedfedd (686mm) sy'n rhedeg am 7.25 milltir neu 11.67 km rhwng Tywyn a Nant Gwernol, ym Meirionnydd, Gwynedd, ger pentre Abergynolwyn. Roedd gynt yn gwasanaethu chwareli llechi Bryn Eglwys, a hon oedd y rheilffordd ager gul, gyntaf a gafodd drwydded i gludo teithwyr, gan Ddeddf y Senedd yng Ngorffennaf 1865.
Penodwyd James Swinton Spooner (mab James Spooner a brawd i Charles Easton Spooner, sy wedi gweithio ar Reilffordd Ffestiniog) yn beirianydd i'r rheilffordd, gan deulu McConnel, perchnogion chwareli Bryn Eglwys.[1]
Ar y dechrau doedd dim ond dwy orsaf: ym Mhendre ac Abergynolwyn. Yna adeiladwyd gorsafoedd Rhydyronen, Brynglas a Dolgoch. Mae amserlen 1867 yn cyfeirio at 'Orsaf King' yn Nhywyn, lle roedd llechi a theithwyr yn cael eu trosglwyddo i Reilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru, a elwid yn ddiweddarach yn 'Rheilffordd y Cambrian'. Enwyd Gorsaf King ar ôl cynberchennog. Erbyn 1911, arddangoswyd yr orsaf yn Amserlen Bradshaw gydag enw Saesneg newydd, 'Towyn (Wharf)', a ddefnyddir hyd at heddiw.
Ar ddiwedd y 19g, dirywiad yn y farchnad llechi, defnyddiwyd y rheilfordd i gludo twristiaid. Gwerthwyd y chwareli a chyfran reolaethol yn y rheilffordd i Syr Henry Haydn Jones, Aelod Seneddol i Sir Feirionydd.[1] Daeth y chwarel i ben yn 1946, ac ni chafodd y rheilfordd ei gwladoli yn 1947. Ers 1951, mae cymdeithas frwdfrydig yn rheoli Rheilffordd Talyllyn.
Bu farw Syr Haydn ym 1950. Cynhaliwyd cyfarfod ym Mirmingham a phenodwyd cyfarfodydd gydag ysgutorion Syr Haydn i drafod ailagor y rheilffordd. Prynwyd locomotifau rhif 3 a 4 o Reilffordd Great y Western, perchennog Rheilffordd Corris, sydd wedi cau erbyn hyn. Ailagorwyd y lein ym Mai 1951 o Dywyn i Rydyrhonen gan ddefnyddio locomotif 'Dolgoch'. Dechreuodd gwasanaeth llawn ar y 4ydd o Fehefin.[2]
Daeth y rheilffordd yn atyniad twristaidd mawr yn yr ardal ac yna cynlluniwyd ymestyn y cledrau o Abergynolwyn hyd at orsaf newydd Nant Gwernol ac o 1959 ymdrechwyd i ddarganfod perchnogion y tir, er mwyn ei brynu. Cwblhawyd y gwaith yno erbyn 1964, ac yna roedd angen Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn i adeiladu ac agor estyniad. Derbyniwyd y Gorchymyn ym 1972, ac agorwyd yr estyniad ar 22 Mai 1976.[3]
Rhif | Enw | Ffotograf | Math | Adeiladwr | Blwyddyn |
---|---|---|---|---|---|
1 | Talyllyn | ![]() |
0-4-2ST | Fletcher, Jennings & Co., Whitehaven | 1864 |
2 | Dolgoch | ![]() |
0-4-0WT | Fletcher, Jennings & Co., Whitehaven | 1866 |
3 | Sir Haydn | ![]() |
0-4-2ST | Hughes, Falcon Works, Loughborough | 1878 |
4 | Edward Thomas | ![]() |
0-4-2ST | Kerr Stuart, Stoke on Trent |
1921 |
5 | Midlander | ![]() |
4w DM | Ruston & Hornsby | 1940 |
6 | Douglas | ![]() |
0-4-0WT | Andrew Barclay, Kilmarnock | 1918 |
7 | Tom Rolt | ![]() |
0-4-2T | Rheilffordd Talyllyn | 1991 |
8 | Merseysider | ![]() |
4w DH? | Ruston & Hornsby | 1964 |
9 | Alf | ![]() |
0-4-0 DM | Hunslet Engine Co. | 1950 |
10 | Bryn Eglwys | 4w DH | Motor Rail | 1985 |
Rhif | Adeiladwr | Math | Seddi |
---|---|---|---|
1 | Brown Marshall | 3 adran | 18 |
2 | Brown Marshall | 3 adran | 18 |
3 | Brown Marshall | 3 adran | 18 |
4 | Cwmni Wagon Caerhirfryn | 3 adran | 18 |
5 | Brown Marshall | Gard | 0 |
6 | Gweithdy Falcon | Gard | 0 |
7 | Rheilffordd Talyllyn | Gard / Cadair olwyn | 13 |
8 | Rheilffordd Talyllyn | 3 adran, ochrau agored | 24 |
11 | Rheilffordd Talyllyn | 3 adran, ochrau agored | 24 |
12 | Rheilffordd Talyllyn | 3 adran, ochrau agored | 24 |
13 | Rheilffordd Talyllyn | 3 adran, ochrau agored | 24 |
14 | Midland R C a W | 2 adran, dosbarth cyntaf | 12 |
15 | Midland R C a W | 2 adran, dosbarth cyntaf | 12 |
Rhif | Adeiladwr | Math | Seddi |
---|---|---|---|
9 | W.G.Allen a Tisdales | 5 adran | 30/40 |
10 | W.G.Allen a Tisdales | 3 adran a Gard | 18/24 |
16 | Kerr Stuart a Rheilffordd Talyllyn | 3 adran a Gard | 18/24 |
17 | Cwmni Cerbyd a Wagon Metropolitan | 2 salŵn | 22 |
18 | Rheilffordd Talyllyn | 6 adran | 36/48 |
19 | Rheilffordd Talyllyn a Tisdales | 6 adran | 12 cyntaf, 24/32 ail dosbarth |
20 | Rheilffordd Talyllyn a Tisdales | 3 adran a salŵn cadair olwyn | 32/41 |
21 | Rheilffordd Talyllyn a Tisdales | 3 adran a salŵn cadair olwyn | 32/41 |
22 | Rheilffordd Talyllyn a Tisdales | 4 adran a Gard | 24/32 |
23 | Rheilffordd Talyllyn a Tisdales | 6 adran | 36/48 |
Lle bydd 2 rhif yn ymddangos, mae'r un is yn cyfeirio at nifer o seddi ar drenau cyffredin, ac yr un uwch at seddi ar drenau prysurach.