Chesias rufata | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Genws: | Chesias |
Rhywogaeth: | C. rufata |
Enw deuenwol | |
Chesias rufata (Fabricius, 1775)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhesen gam, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhesi cam/ceimion; yr enw Saesneg yw Broom-tip, a'r enw gwyddonol yw Chesias rufata.[2][3] Fe'i canfyddir yn y rhan fwyaf o Ewrop, gan gynnwys gwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae hefyd i'w weld rhwng Morocco ac Asia Leiaf.
26–32 mm ydy lled ei adenydd ar eu heithaf a gwelir yr oedolyn yn hedfan rhwng Ebrill a Mai. Prif fwyd yr oedolyn yw Salix (pren helyg) a mathau o Berberis.
Prif fwyd y siani flewog ydy Cytisus scoparius, Genista tinctoria a Genista germanica. Maen nhw i'w gweld rhwng Mehefin a Hydref. Mae'r resen gam yn gaeafgysgu fel piwpa.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r rhesen gam yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.