Dyma restr o'r 23 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Wyoming yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Yn wreiddiol roedd pum sir yn Nhiriogaeth Wyoming: Laramie a Carter, sefydlwyd ym 1867; Carbon ac Albany sefydlwyd ym 1868; ac Uinta, cyfran atodol o Utah ac Idaho, yn ymestyn o Montana (gan gynnwys Parc Yellowstone) i ffin Wyoming ac Utah. [2] Ar 10 Gorffennaf, 1890, derbyniwyd Wyoming i’r Undeb gyda thair sir ar ddeg ynddo. Crëwyd deg sir arall ar ôl dyfod yn dalaith. [2]
Ailenwyd tair sir ar ôl eu creu. Ailenwyd Carter County yn Sweetwater County ar 1 Rhagfyr, 1869.[3]. Parodd Hanover County am saith niwrnod ym 1911 cyn ei ailenwi'n Washakie County.[4]
Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Wyoming yw 56, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 56XXX. Mae Albany County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith Wyoming, 56, i god Albany County ceir 56001, cod unigryw i'r sir honno. [5]
Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno.
Sir |
Cod FIPS[5] | Sedd Sirol [6] |
Sefydlu [2] |
Tarddiad [2] |
Etymoleg [7] |
Population [6][8] |
Maint [6][9] |
Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Albany County | 001 | Laramie | 1868 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Dinas Albany, Efrog Newydd, yr oedd ymsefydlwyr cynnar yn hanu ohono. | 37,276 | ( 11,070 km2) |
4,274 sq mi|
Big Horn County | 003 | Basin | 1896 | Rhannau o Sheridan County, Johnson County, a Fremont County. | Mynyddoedd Big Horn, cadwyn o fynyddoedd sy'n ymestyn i ogledd Wyoming | 11,794 | ( 8,125 km2) |
3,137 sq mi|
Campbell County | 005 | Gillette | 1911 | Rhannau o Weston County a Crook County. | John Allen Campbell (1835–80), Llywodraethwr cyntaf Tiriogaeth Wyoming (1869–75) | 47,874 | ( 12,424 km2) |
4,797 sq mi|
Carbon County | 007 | Rawlins | 1868 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Carbon yw brif elfen glo, mae'r sir yn enwog am ei faes glo. | 15,666 | ( 20,453 km2) |
7,897 sq mi|
Converse County | 009 | Douglas | 1888 | Rhannau o Albany County and Laramie County. | A.R. Converse, bancwr a ranshwr o Cheyenne, Wyoming. | 14,008 | ( 11,020 km2) |
4,255 sq mi|
Crook County | 011 | Sundance | 1875 | Rhannau o Laramie County ac Albany County. | George Crook (1828–90), cadfridog yn Rhyfel Cartref America a'r rhyfeloedd yn erbyn y Cenhedloedd Brodorol. | 7,155 | ( 7,405 km2) |
2,859 sq mi|
Fremont County | 013 | Lander | 1884 | Rhan o Sweetwater County. | John C. Frémont (1813–90), fforiwr, Seneddwr dros Califfornia, ac ymgeisydd arlywyddol cyntaf o un o'r pleidiau mawr i redeg ar blatfform mewn gwrthwynebiad i gaethwasiaeth | 41,110 | ( 23,784 km2) |
9,183 sq mi|
Goshen County | 015 | Torrington | 1911 | Rhan o Laramie County. | Tir Gosen (Saesneg: Goshen), paradwys Feiblaidd. | 13,636 | ( 5,763 km2) |
2,225 sq mi|
Hot Springs County | 017 | Thermopolis | 1911 | Rhannau o Fremont County, Big Horn County, a Park County. | Y ffynhonnau poeth yn Thermopolis. | 4,822 | ( 5,190 km2) |
2,004 sq mi|
Johnson County | 019 | Buffalo | 1875 | Rhannau o Carbon County and Sweetwater County. | E.P. Johnson, cyfreithiwr o Cheyenne, Wyoming. | 8,615 | ( 10,790 km2) |
4,166 sq mi|
Laramie County | 021 | Cheyenne | 1867 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Jacques La Ramee (1785?-1821), masnachwr ffwr o Ganada Ffrengig. | 94,483 | ( 6,957 km2) |
2,686 sq mi|
Lincoln County | 023 | Kemmerer | 1911 | Rhan o Uinta County. | Abraham Lincoln (1809–65), Arlywydd yr Unol Daleithiau(1861–65) | 17,961 | ( 10,539 km2) |
4,069 sq mi|
Natrona County | 025 | Casper | 1888 | Rhan o Carbon County. | O natron ffurf naturiol o decahydrad sodiwm carbonad sydd ar gael yn y sir. | 78,621 | ( 13,831 km2) |
5,340 sq mi|
Niobrara County | 027 | Lusk | 1911 | Rhan o Converse County. | Afon Niobrara sy'n llifo trwy'r dalaith. | 2,456 | ( 6,801 km2) |
2,626 sq mi|
Park County | 029 | Cody | 1909 | Rhan o Big Horn County. | Parc Cenedlaethol Yellowstone | 28,702 | ( 17,982 km2) |
6,943 sq mi|
Platte County | 031 | Wheatland | 1911 | Rhan o Laramie County. | Afon Platte. | 8,756 | ( 5,400 km2) |
2,085 sq mi|
Sheridan County | 033 | Sheridan | 1888 | Rhan o Johnson County. | Philip Sheridan (1831-88), Cadfridog yn Rhyfel Cartref America. | 29,596 | ( 6,535 km2) |
2,523 sq mi|
Sublette County | 035 | Pinedale | 1921 | Rhannau o Fremont County a Lincoln County. | William Sublette, masnachwr ffwr. | 10,368 | ( 12,644 km2) |
4,882 sq mi|
Sweetwater County | 037 | Green River | 1867 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Afon Sweetwater sy'n llifo trwy'r sir | 45,267 | ( 27,003 km2) |
10,426 sq mi|
Teton County | 039 | Jackson | 1921 | Rhan o Lincoln County. | Teton Range, amrediad bach o fynyddoedd sy'n rhan o mynyddoedd y Rockies ar y ffin rhwng Wyoming ac Idaho | 21,675 | ( 10,381 km2) |
4,008 sq mi|
Uinta County | 041 | Evanston | 1869 | Un o'r pum sir gwreiddiol. | Mynyddoedd Uinta. | 21,025 | ( 5,392 km2) |
2,082 sq mi|
Washakie County | 043 | Worland | 1911 | Rhan o Big Horn County | Washakie (1804-1900), arweinydd Cenedl frodorol y Shoshone. | 8,464 | ( 5,802 km2) |
2,240 sq mi|
Weston County | 045 | Newcastle | 1890 | Rhan o Crook County | John Weston (1831–95), a fu'n gyfrifol am adeiladu rheilffordd gyntaf yr ardal | 7,082 | ( 6,211 km2) |
2,398 sq mi
Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD