Yn gywir, defnyddir y term llyfrau canonaidd, i ddisgrifio rhestr o lyfrau a dderbynnir gan gorff eglwysig fel rhan o'r Ysgrythur Sanctaidd. Mae ffaniau llyfrau Sherlock Holmes yn defnyddio'r un ymadrodd i wahaniaethu y llyfrau gwreiddiol gan Doyle a llyfrau diweddarach gan awduron eraill sy'n defnyddio'r un cymeriadau.
Yn draddodiadol, mae canon Sherlock Holmes yn cynnwys y 56 stori fer a phedair nofel a ysgrifennwyd gan Syr Arthur Conan Doyle.[1]
Cyhoeddwyd 14 Hydref1892; yn cynnwys 12 stori a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn The Strand rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892 gyda lluniau gwreiddiol gan Sidney Paget.[6]
Yn cynnwys 12 stori a gyhoeddwyd yn The Strand fel penodau pellach o'r Anturiaethau rhwng Rhagfyr 1892 a Rhagfyr 1893 gyda lluniau gwreiddiol gan Sidney Paget Mae'r stori The Adventure of the Cardboard Box wedi'i chynnwys fel rhan o His Last Bow mewn rhifynnau Americanaidd ac yn The Memoirs of Sherlock Holmes mewn rhifynnau Prydeinig o'r canon
Ers marwolaeth yr awdur, mae arbenigwr Holmes, proffesiynol ac amatur, wedi trafod ehangu’r canon uchod i gynnwys gweithiau eraill gan Doyle, gan gynnwys gweithiau mewn cyfryngau eraill, i’r rhestr gyflawn gyfredol. Mae sibrydion rheolaidd am weithiau coll. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ymchwiliadau pellach wedi datgelu mwy na'r canon a gasglwyd yn draddodiadol.
Ymhlith y casgliadau cyhoeddedig o weithiau allganonaidd mae:
Sherlock Holmes: The Published Apocrypha, wedi'i olygu gan Jack Tracy [8]
The Final Adventures of Sherlock Holmes, wedi'i olygu gan Peter Haining [9]
The Uncollected Sherlock Holmes, wedi'i olygu gan Richard Lancelyn Green [10]
The Apocrypha of Sherlock Holmes gan Leslie S. Klinger[11]
Mae'r gweithiau hyn, pob un â chynnwys ychydig yn wahanol, yn trafod sawl teitl a'u honiadau am le yn y canon ar gyfer weithiau amgen.
The Field Bazaar (1896). Ysgrifennwyd ar gyfer digwyddiad codi arian ar gyfer Prifysgol Caeredin. Roedd ei brifysgol wedi gofyn i Doyle gyfrannu darn byr o lenyddiaeth ar gyfer cylchgrawn elusennol.
The Story of the Lost Special (1898). Er bod Doyle wedi lladd ei gymeriad erbyn 1894, ysgrifennodd straeon byrion eraill i'w cyhoeddi yn The Strand, gan gynnwys The Story of the Lost Special. Mae'r stori yn ddirgelwch ymddangosiadol anesboniadwy lle mae trên arbennig a'i ychydig deithwyr yn diflannu rhwng dwy orsaf. Ar ôl i'r dirgelwch gael ei ddisgrifio'n llawn, dywedir bod llythyr wedi ymddangos yn y wasg, yn rhoi ateb arfaethedig gan 'ymresymwr amatur o beth enwogrwydd'. Mae Haining, Tracy, a Green wedi cynnig, ymhlith eraill mae Sherlock Holmes oedd yr ymresymwr amatur hwn. Mae'r stori yn cael ei gynnwys yn y rhestr Ffrengig o'r gweithiau cyflawn. Oherwydd bod yr ateb a awgrymir yn cael ei brofi’n anghywir, trwy gyfaddefiad gan y troseddwr ar ôl iddo gael ei arestio, am drosedd arall, y gred gyffredinol yw fod Doyle wedi portreadu cymeriad sy'n gwneud parodi methedig o arddull rhesymu Holmes.
The Story of the Man with the Watches (1898). Cyhoeddwyd yn The Strand gan Doyle. Stori arall lle mae ditectif amatur yn dod i'r casgliad anghywir trwy geisio defnyddio arddull rhesymu Holmes.
How Watson Learned the Trick (1924). Yn y 1920au penderfynodd y pensaer Syr Edwin Lutyens creu tŷ doliau ar gyfer Y Frenhines Mary gwraig Y Brenin Siôr V. Cyfrannodd nifer o awduron y dydd llyfrau microsgopig ber ar gyfer llyfrgell y tŷ gan gynnwys Doyle. Ond gan fod ei lyfr yn llai na 600 gair o hyd, nid yw'n cyrraedd y safon, gan y mwyafrif o arbenigwyr, i gael ei gynnwys yn y canon fel llyfr na stori fer.
The Case of the Man Who Was Wanted (tua. 1914) Darganfuwyd y stori ymysg papurau Conan Doyle ym 1942 gan Hesketh Pearson, un o'i fywgraffyddion. Fe'i cyhoeddwyd ym 1943 fel un o'i straeon. Ond gan ei fod wedi ei deipio yn hytrach na'i ysgrifennu a llaw roedd rhai yn amau ei fod yn ffugiad. Canfuwyd bod y stori wedi ei ddanfon gan ŵr o'r enw Arthur Whitaker, fel awgrym i annog Doyle i ysgrifennu mwy am ei hoff dditectif.
The Adventure of the Two Collaborators (1923) Stori mae nifer yn honni i Doyle ysgrifennu ar gyfer ei gyfaill J. M. Barrie (awdur Peter Pan). Mewn gwirionedd ysgrifennodd Barrie y stori ar gyfer Doyle. Mae'r stori yn adrodd sut bu i Barrie a Doyle ymweld â Holmes a'i lofruddio gan ei fod yn boen yn din hollwybodol! [12]